Sunday, March 25, 2007

Diddymu Caethwasiaeth

Diddymiad Caethwasiaeth oedd thema ein hoedfa foreol ar Ddydd Sul, 25 Mawrth, 2007, a hithau'n union 200 mlynedd i'r diwrnod pan basiwyd Deddf Dileu Caethfasnach.

Roedd ein cyfeillion o Eglwys Moreia wedi ymuno a ni yn yr oedfa a chawsom gan ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees, hanes William Wilberforce; John Newton, cyfansoddwr yr emyn Rhyfeddol Ras (Amazing Grace); Thomas Clarkson; Granville Sharp; James Ramsey a Josiah Wedgewood, ymysg eraill, yn eu hymdrechion i ddiddymu'r fasnach gaethweision.

Cawsom ein harwain drwy ddarlleniadau o'r Beibl, myfyrdod; gweddiau, a chan. Cawsom unawd o'r emyn Rhyfeddol Ras, ac yna ymunodd y ddau gor, Gellimanwydd a Moreia, i ganu anthem y Gymanfa Ganu eleni.

Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd drwy rannu cwpaned o de a bisgedi. Roedd yn fendith cael bod yn bresennol a chofio am ymdrechion pobl er lles dynoliaeth.

"Free at last, Free at last
Thank God Almighty
I'm Free at last."
Martin Luther King 1929 - 1968

Os hoffech wybod mwy am ymdrechion William Wilberforce a Diddymwyr y Fasnach gaethweision yna darllenwch yr erthygl yn Y Tyst Mawrth 15, 2007 gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees.

No comments: