Sunday, March 11, 2007

GWASANAETH GRAWYS

Thema oedfa Bore Sul 11 Mawrth, 2007 oedd y Grawys a rhai o'r cymeriadau a gafodd eu dylanwadu gan yr Iesu. Bethan Thomas ein Hysgrifennydd oedd yn gyfrifol am yr oedfa.
Y Grawys yw tymor o 40 diwrnod o baratoi am farwolaeth ac ATGYFODIAD yr Iesu ar Sul y Pasg. Mae'r tymor yn dechrau ar Ddydd Mercher Lludw. Yn ystod y Grawys rydym yn dilyn yr IESU drwy ei wenidogaeth hyd at yr wythnos sanctaidd a'i groesholio ar Ddydd Gwener y Groglith.
Cawsom drwy weddiau, stori i'r plant, emynau, deuawd, darlleniadau a myfyrdodau hanes rhai o bobl y Beibl.
Clyswom fyfyrdodau Ioan Fedyddiwr, Mair Mam Iesu, Y wraig o Samaria, Y gwahanglwyf a Lasarus a oedd yn trafod sut roedd Iesu wedi cyffwrdd a nhw a newid eu bywydau yn llwyr.

"ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dwr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dwr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddwr o'i fwn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol." Ioan 4:14


No comments: