Sunday, June 24, 2007

Cwrdd Teuluol

Bore Sul 24 Mehefin cynhaliwyd cwrdd teuluol. Ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees oedd yn gyfrifol am y cwrdd. Thema y gwasanaeth oedd Teulu Duw. Roedd Mari a Dafydd Llywelyn, ac Elan Daniels yn rhoi emynau allan. Yna cawsom ddarlleniad pwrpasol gan Manon Daniels, sef Mathew 10 - Rhoi Comisiwn i'r Deuddeg.
Drwy gyfrwng lluniau ar yr uwchdaflynydd soniodd Y Parchg Dyfrig Rees, sut yr ydym ni yng Ngellimanwydd yn aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Council for World Mission ac yn wir yn rhan o deulu mawr Duw.
"Rŷm ni gyd yn y tŷ,
rŷm ni gyd yn y tŷ,
rŷm ni gyd yn y tŷ ar y graig;
safwn ni ar sylfaen gref,
canwn foliant hyd y nef,
rŷm ni i gyd yn y tŷ ar y graig."
Cyf- Sion Aled, Arfon Jones, Tim Webb

No comments: