Sunday, September 23, 2007

JOIO GYDA IESU

Ar brynhawn Sul Medi 23ain aeth plant yr Ysgol i oedfa arbennig ar gyfer eglwysi Gogledd Myrddin yng nghapel Ebeneser, Rhydaman. Roedd ffurf a threfn yr oedfa dipyn yn wahanol i`r arfer gyda`r pwyslais ar ddathlu`r ffydd Gristnogol mewn llawenydd, tra`n dyrchafu enw Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr. Mewn geiriau eraill, cyflwyno`r hen, hen hanes mewn dull cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein dydd ni.

Daeth tyrfa gref o dros 250 ynghyd gyda phob sedd wedi ei gymryd ar lawr y capel. Croesawyd pawb ynghyd a chafwyd gair o weddi gan gadeirydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin, Mr Mel Morgans. Dilynwyd hyn gyda dau fochyn bach yn adrodd hanes Y Mab Afradlon. (Cyflwynwyd sgets y pypedau gyda Andy a Carys Hughes o`r Bala sy`n gweithio i`r mudiad Cristnogol, “Saint Yn Y Gymuned”).

A hithau`n gyfnod Cwpan Rygbi`r Byd, priodol iawn oedd cael cwmni Ceri Davies, cyn chwaraewr Y Scarlets a chyn gapten tîm rygbi Llanymddyfri i rannu ei brofiadau fel chwaraewr rygbi a hefyd fel Cristion. Gellir crynhoi ei anerchiad trwy ddweud er cymaint yw ei serch at y gêm hirgron, mae ei gariad at Iesu yn fwy – “rhywbeth dros amser yw rygbi, ond mae Iesu Grist yn ymwneud a thragwyddoldeb.”

Y gwestai arall fu`n cymryd rhan flaenllaw yn yr oedfa oedd Ifan Gruffydd, Tregaron. Holwyd Ifan am ei gefndir a`i ffydd gan Nigel Davies, Swyddog Plant ac Ieuenctid y Fenter. Clywyd sôn am y fagwraeth Gristnogol gafodd Ifan a dylanwad y dosbarth Ysgol Sul oedolion - mae e`n dal i fynychu gyda llaw - a`r argraff fawr gafodd Dr. Martyn Lloyd Jones arno yn fachgen ifanc 21 mlwydd oed. Mae Ifan erbyn heddiw yn enwog fel diddanwr dros Gymru gyfan, ond mae`r dylanwad cynnar wedi parhau ac mae ei ffydd a`i obaith yn sicr yng Nghrist y bedd gwag. Fel dywedodd ar ddiwedd ei gyfweliad, “os wnewch chi geisio`r Arglwydd, fe ddewch o hyd iddo a pheidiwch dalu sylw i sylwadau pobl fel Richard Dawkins (anffyddiwr). Bydd gydag e ddim byd i ddweud wrthoch chi ar lan y bedd!”

Roedd yr oedfa “Joio Gyda Iesu” yn oedfa ar gyfer y teulu cyfan ac fe ganwyd y gân, “Cristion Bychan Ydwyf” gan gôr unedig o Ysgolion Sul y dalgylch o dan arweinyddiaeth fedrus Eryl Jones o Landeilo. Diweddwyd yr oedfa gyda Ifan a Carlo`r ci yn cyflwyno dameg Y Ddafad Golledig a hynny mewn ffordd mor unigryw a doniol a glywodd neb erioed. Cyflwynwyd y fendith gan Y Parch Emyr Gwyn Evans, ysgrifennydd y Fenter.

Roedd hon yn oedfa arbennig iawn, ac fel mae`r teitl yn awgrymu fe wnaeth pawb oedd yn bresennol “joio gyda Iesu.” Gobaith y Fenter yw trefnu oedfa gyffelyb yn flynyddol ar ddechrau`r tymor fel hwb a sbardun i dystiolaeth yr efengyl yn nalgylch Gogledd Myrddin.
“Y mae i’n Waredwr,
Iesu grist Fab Duw,
Werthfawr Oen ei Dad, Meseia,
Sanctaidd, sanctaidd yw.”
Miriam Davies (mam Ceri Davies)

No comments: