Wednesday, September 17, 2014

Trip Y Gymdeithas



 
Dydd Sadwrn 14 Medi aeth aelodau a ffrindiau Cydmeithas Gellimanwydd ar eu trip blynyddol. Senghennydd oedd y gyrchfan eleni i weld y Gofeb

Cawsom groeso twymgalon gan Mr Jack Humphreys, Cadeirydd Grwp Treftadaeth Cwm yr Aber, â’r tîm o wirfoddolwyr. I ddechrau aethom i’r Amgueddfa i gael disgled o de a chacen. Yna aeth hanner ohonom i’r amgueddfa i weld ffilm fer ac edrych ar yr arddangosfa tra aeth y gweddill i’r Ardd Goffa a’r Gofeb Cenedlaethol. Roedd yn brofiad sobreiddiol, yn enwedig wrth weld y cerflun efydd bendigedig o’r glowyr gan Les Johnson.  Yn yr ardd goffa mae enw pawb a gollodd eu bywydau yn y trychineb yn Hydref 1913, gydag enw, oed a chyfeiriad pob un o’r glowyr. Cafodd 439 o lowyr eu lladd yn y ffrwydrad yn Senghennydd, y trychineb diwydiannol gwaethaf yn hanes Prydain.

Hefyd gwelsom y llwybr coffa yn yr ardd er cof am bob damwain lofaol yng Nghymru lle cafodd mwy na phump o bobl eu lladd. Mae’r llwybr yn nodi enw’r lofa, dyddiad y trychineb a’r nifer a gafodd eu lladd.

Wedi’r ymweliad â Senghennydd aethom am ychydig oriau i’r Bontfaen i gael rhywbeth bach i fwyta a siopa am ychydig cyn galw ym Mhencoed am bryd o fwyd ar y ffordd adref.

Yn wir roedd yn ddiwrnod bendigedig a cychwyn gwerth chweil i dymor newydd.
 
 

Sunday, September 14, 2014

Mynd i'r Coleg

Yn ystod oedfa bore dydd Sul 14 Medi rhodwyd rhodd fechan i Mari Roberts ac Annie Jones, dwy gyn aelod o Ysgol Sul y Capel. Mae'r ddwy yn mynd i'r Brifysgol. Mae Mari yn mynd i Manceinion i astudio Cwrs dysgu ar gyfer plant gyda anghenion arbennig tra bod Annie yn mynd  i astudio cwrs Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe. Mr Brian owen, un o ddiaconiaid y Capel oed dyn cyflwyno'r rhodd.

Thursday, July 24, 2014

Suliau Awst

Bydd aelodau Gellimanwydd yn ymuno yn yr Oedfa'r Bore ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol dydd Sul 3 Awst. Yna yn y prynhawn byddwn ym Moreia Tycroes am Oedfa olaf ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees. wedi'r oeda bydd cyfle i gymdeithasu yn y Festri drwy rannu cwpanaid o de.

Ar gyfer gweddill mis Awst mae Capeli tref Rhydaman yn dod at ein gilydd ac mae'r oedfaon fel a ganlyn.
Awst 10, Gellimanwydd am 10.30am - Y Parchedig Gerwyn Jones, Caerbryn;
Awst 17, Ebeneser am 10.30am - Yr Hybarch Randolph Thomas, Porthyrhyd;
Awst 24, Bethany am 10.30am - Y Parchedig Sulwyn Jones, Abertawe;
Awst 31, Y Gwynfryn am 10.30pm - Y Parchedig Derwyn Morris Jones, Abertawe.

Sunday, July 06, 2014

Bwrlwm Bro

Ar fore Sul 15 Mehefin cynhaliwyd Bwrlwm Bro Rhydaman a’r cylch yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Y thema o dan sylw eleni oedd atgyfodiad Iesu o’r bedd. Cyflwynwyd y neges trwy gyfrwng amrywiaeth o gemau a chyflwyniadau gweledol. Cafodd bawb hwyl a sbri, a chyfle i ddysgu bod Iesu’n fyw heddiw a phan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau’n fawr y profiad o gael uno gyda’i gilydd mewn dathliad  cyfoes o’r ffydd

Wednesday, April 16, 2014

Gymanfa Ganu Undebol


Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a’r Cylch ar ddydd Sul y Blodau, 13 Ebrill, 2014 yng Nghapel Gellimanwydd. Yr arweinydd oedd Mr Steffan Huw Watkins, Y Fforest. Mae Steffan yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ac yn ymchwilydd gyda Chwmni Teledu Boom Pictures. Mae’n adnabyddus ym myd cerddoriaeth fel arweinydd Bois y Waun Ddyfal. Mae ganddo gysylltiadau agos ag ardal Glo Man ac mae’n ŵyr i Eilir a’r diweddar Eifion Watkins, Heol Pontarddulais, Tycroes. Yr  organyddes oedd Mr Gloria Lloyd.
Cawsom ddwy oedfa. Yn y bore cyfle y plant oedd hi a braf oedd cael bod yno yn gweld a gwrando arnynt yn canu mor hyfryd.
Yna yn y nos daeth aelodau a ffrindiau  capeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd ar gyfer Gymanfa llwyddiannus dros ben .
 
yng ngeiriau un o'r emynau cafodd ei ganu yn y bore
Clywch y nodau llawen,
clywch y lleisiau byw
megis cor o glychau'n seinio mawl I Dduw.
Gwilym Herber Williams