Ar fore Sul 15 Mehefin
cynhaliwyd Bwrlwm Bro Rhydaman a’r cylch yn Neuadd Gellimanwydd,
Rhydaman. Y thema o dan sylw eleni oedd atgyfodiad Iesu o’r bedd.
Cyflwynwyd y neges trwy gyfrwng amrywiaeth o gemau a chyflwyniadau gweledol.
Cafodd bawb hwyl a sbri, a chyfle i ddysgu bod Iesu’n fyw heddiw a phan ddaeth
yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi
mwynhau’n fawr y profiad o gael uno gyda’i gilydd mewn dathliad cyfoes
o’r ffydd
No comments:
Post a Comment