Cynhaliwyd
Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a’r Cylch ar ddydd
Sul y Blodau, 13 Ebrill, 2014 yng Nghapel Gellimanwydd. Yr arweinydd
oedd Mr Steffan Huw Watkins, Y
Fforest. Mae Steffan yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ac yn ymchwilydd gyda
Chwmni Teledu Boom Pictures. Mae’n adnabyddus ym myd cerddoriaeth fel arweinydd
Bois y Waun Ddyfal. Mae ganddo gysylltiadau
agos ag ardal Glo Man ac mae’n ŵyr i Eilir a’r diweddar Eifion Watkins, Heol
Pontarddulais, Tycroes. Yr organyddes oedd Mr Gloria Lloyd.
Cawsom ddwy oedfa. Yn y bore cyfle y plant oedd hi
a braf oedd cael bod yno yn gweld a gwrando arnynt yn canu mor hyfryd.
Yna yn y nos daeth aelodau a ffrindiau capeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia,
Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd
ar gyfer Gymanfa llwyddiannus dros ben .
yng ngeiriau un o'r emynau cafodd ei ganu yn y bore
Clywch y nodau llawen,
clywch y lleisiau byw
megis cor o glychau'n seinio mawl I Dduw.
Gwilym Herber Williams
No comments:
Post a Comment