Thursday, May 14, 2015
Sunday, April 05, 2015
Dechrau Canu Dechrau Canmol
Ar Sul y Pasg, roedd rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dodo o Gapel Gellimanwydd, ac yn dathlu'r Atgyfodiad. Cawsom fwynhau perfformiadau gan yr unawdwyr Elgan Thomas a Gwawr Edwards a myfyrio ar ddigwyddiadau wythnos y Pasg trwy gyfrwng myfyrdodau, darlleniadau a monologau.
Hyfryd oedd gweld cymaint o'n haelodau a ffrindiau ar y teledu.
Sunday, March 29, 2015
CYMANFA GANU
Cynhaliwyd ein Cymanfa ganu Undebol ar ddydd Sul y Blodau, 29 Mawrth, 2015 yng Nghapel Gellimanwydd.
Yr Arweinydd oedd Mr Allan Fewster, Llangennech gyda Mrs Gloria Lloyd yn cyfeilio.
Capel Hendre oed d yn llywyddu yn y bore a Seion yn yr hwyr.
Sunday, March 22, 2015
Mudiad Cenhadol y Chwiorydd
O'r chwith i'r dde: Y Parch. Emyr Gwyn Evans, Mrs. Sian
Jones a Mrs. Marjorie Rogers (Y Gwynfryn),
Mrs. Carol Ann Lewis (Moreia) a'r
Parch. Ryan Thomas
Mae yna fudiad Cenhadol gan
chwiorydd capeli Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman a Moreia, Tycroes ers
1950. Bryd hynny mi roedd Seion, Llandybïe hefyd yn rhan o’r cylch. Yn ystod y
65 mlynedd mae’r adran wedi codi miloedd ar filoedd o bunnau tuag at y gwaith
Cenhadol gan fod yr arian a gesglir i gyd – talu am y te, casgliad, bore coffi
ac ati – yn mynd at y gwaith cenhadol. Tramor fu’r alwad yn y blynyddoedd a fu
ond rydym bellach yn rhoi cyfraniad at MIC sef Mudiad Ieuenctid Cristnogol ein
hardal. Bu i nifer o’n cenhadon ymweld â’r adran ac fe fu y Parchn. R. E. Edwards,
Ieuan S. Jones a Ioan Wyn Gruffydd yn gefn mawr i’r cylch.
Rydym
yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cael siaradwyr diddorol i’n hannerch ac hefyd
cyfarfodydd rydym ni ein hunain yn eu trefnu megis gwasanaeth Nadolig, cwrdd
gweddi ac ati. Cynhelir ein cyfarfod blynyddol ddechrau Mawrth. Bryd hynny
trosglwyddir y llywyddiaeth i chwiorydd y gwahanol eglwysi. Bellach fe rhennir
y gwaith rhwng gwragedd yr eglwysi. Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol eleni yn Y
Gwynfryn, Rhydaman gyda’r Parch. Emyr Gwyn Evans yn annerch a gweinyddi’r cymun
gyda’r Parch. Ryan Thomas yn cynorthwyo wrth yr organ. Eleni mi roedd Mrs.
Carol Ann Lewis ar ran chwiorydd Moreia yn cyflwyno Beibl y Mudiad i Mrs.
Marjorie Rogers a’i derbyniodd ar ran chwiorydd y Gwynfryn, Rhydaman.
Rydym
hefyd fel adran yn ffyddlon i Adran Chwiorydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a
Brycheiniog a Thalaith y De o Fudiad Chwiorydd yr Annibynwyr.
Tuesday, March 03, 2015
Eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes yn dathlu
Eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes yn dathlu
Mi roedd Sul, Mawrth 1af yn Sul o
ddathlu mawr yng nghapeli Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes oherwydd hwn
oedd y diwrnod y dechreuodd y Parch. Ryan Thomas, Brynaman ei weinidogaeth yn
ein mysg.
Roedd
yr oedfa foreol yng Ngellimanwydd. Mi
roedd yn braf gweld y capel yn llawn o blant, teuluoedd ifanc, pobl canol oed a
henoed a phawb yn hapus i ddathlu gŵyl ein nawddsant a chyfnod newydd yn ein
hanes fel eglwys. Gan ei bod yn wasanaeth teuluol y plant a’r ieuenctid a
gymerodd at yr oedfa. Rydym yn ymfalchio fod gyda ni gymaint o blant yn awyddus
a pharod i gymeryd rhan ac am rhieni sydd mor barod i gynorthwyo ymhob dull a
modd.
Rhai o blant niferus Gellimanwydd
Yn ystod yr oedfa cafwyd gair byr o
groeso i’r gweinidog newydd gan Bethan, Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol yr
Eglwys ac yna cafwyd neges pwrpasol i’r plant gan y gweinidog newydd.
Gweinyddwyd y Cymun ar ddiwedd yr oedfa gan y Parch. Ryan Thomas. Mrs. Gloria
Lloyd oedd wrth yr organ. Mi roedd y capel a’r neuadd wedi eu haddurno’n hardd
â chennin pedr.
Wedi’r
gwasanaeth aeth pawb i fwynhau melysfwydydd Cymreig yn Neuadd Gellimanwydd ac
yno fe gafwyd cyfle i ni gwrdd â’r Parch. Ryan Thomas.
Roedd y
chwiorydd wedi paratoi yn helaeth ar ein cyfer ac fe gafwyd gwledd o fwyd yn y
festri gyda cyfle i bawb gwrdd â’r gweinidog newydd. Y chwiorydd hefyd a fu yn
gyfrifol am addurno’r capel a’r festri mor hardd gyda daffodiliau.
Y Parchg Ryan Thomas gyda rhai o aelodau gweithgar Eglwys Moreia, Tycroes
Ym mis Medi fe
fydd Eglwys y Gwynfryn, Rhydaman yn ymuno â’r ofalaeth. Hwn fydd y tro cyntaf
i’r dair eglwys, y fam a’r ddwy ferch, fod o dan arweiniad yr un gweinidog.
Mae’r dair eglwys, er hynny, wedi cyd-weithio â’i gilydd ar hyd y blynyddoedd
drwy’r Gymanfa Ganu a Mudiad Cenhadol y Chwiorydd.
Edrychwn
ymlaen at gyfnod newydd yn ein hanes a boed i Dduw ein harwain i’r dyfodol yn
llawn hyder a ffydd.
Bethan
Thomas, Ysgrifennydd yr Ofalaeth
Subscribe to:
Posts (Atom)










