Monday, October 22, 2012

Diolchgarwch Gellimanwydd


Ar fore Dydd Sul 21 Hydref cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch Gellimanwydd.
Roedd y capel wedi ei addurno, yn ôl yr arfer, gan y chwiorydd a hyfryd oedd gweld y blodau a’r llysiau o amgylch yr adeilad.
 Eleni roedd yr oedolion a’r plant yn cymryd rhan gyda eu gilydd yn yr oedfa. Arbrawf hynod llwyddiannus. Canwyd Salm i ddechrau ac yna daeth y plant ymlaen  a’u bocsus esgidiau wedi eu llenwi gyda anrhegion ar gyfer “Operation Christmas Child”.
Hyfryd oedd gweld cymaint o blant bach yn cymryd rhan a phob un yn gwneud eu rhan mor broffesiynol.
Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn Neuadd Gellimanwydd drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi.

Sunday, September 23, 2012

Casglu handbags

Mae Gellimanwydd yn cefnogi ymgyrch Merched Y Wawr i gasglu handbags, gyda'r elw yn mynd tuag at Cymorth Cristnogol. Felly dewch a'ch bagiau at Elan a Mari.

Saturday, September 22, 2012

Taith gerdded Cymorth Cristnogol


Dydd Sadwrn, 22 Medi cynhaliwyd taith gerdded Cymroth Cristnogol Rhydaman. Roedd criw da wedi dod ynghyd o nifer o gapeli ac eglwysi’r dref.  Cawsom dywydd bendigedig a ‘r daith yn hynod bleserus gan ddilyn yr afon ar hyd y llwybr o Garnant i Rhydaman. Ar ol cyrraedd Rhydaman cawsom gwpanaid o de yn Neuadd Gellimanwydd. Mae’r arian yn dal i ddod i mewn ond llwyddwyd i gasglu swm anrhydeddus tuag at Ymgyrch  Cymorth Cristnogol y dref.
Yn wir mae'n bleser cyhoeddi bod Pwyllgor Cymorth Cristnogol Rhydaman yn cyfrannu dros £8,000 yn flynyddol tuag at yr elusen.

Thursday, July 19, 2012

YSGOL SUL


Ar fore Dydd Sul  15 Gorffennaf i orffen tymor yr Ysgol Sul am yr haf cawsom Gellilympics, neu mabolgampau dan do a hot dogs i ddilyn.

Hyfryd oedd gweld yr oedolion yn dod i'r Neuadd wedi'r oedfa foreol i ymuno yn yr hwyl. Cawsom gemau fel  Ras gwisg ffansi, ras gyfnewid a ras llwy ar wy.

Wedi'r rasio cawsom gyfle i gymdeithasu drwy rannu Hot Dogs, gyda sos coch a wninwns wrth gwrs a chwpanaid o de neu goffi i'r oedolion a sudd oren i'r plant.

Hoffai athrawon yr Ysgol Sul ddiolch i bawb am bob cefnogaeth yn ystod y flwyddyn, yn enwedig y rhieni a'r plant. Dymunwn haf hapus i bawb ac edrychwn ymlaen i'ch croesawu yn ol wedi'r gwyliau haf.

Saturday, July 14, 2012

Trip Ysgol Sul - Dinbych y Pysgod


Unwaith eto buom yn hynod ffodus gyda'r tywydd ar Ddydd Sadwrn 30 Mehefin pan aethom ar ein trip blynyddol i Ddinbych y Pysgod. Oherwydd y tywydd cyfnewidiol a'r ffaith bod gennym nifer o deuluoedd ifanc yn mynychu'r Ysgol Sul penderfynwyd mynd mewn ceir yn hytrach na bws y tro hwn.
Roeddem yn ffodus dros ben gyda'r tywydd, fel y gwelwch yn y llun. Er iddi fwrw glaw yn Rhydaman, a'r rhan fwyaf o Gymru mae'n siwr cawsom ddiwrnod hyfryd ar y traeth yn Ninbych y Pysgod.
Yn wir roedd ambell un wedi llosgi ei goesau a'i gorun oherwydd iddo beidio defnyddio eli haul.
Manteisiodd y plant ar y cyfle i fynd i mewn i'r mor tra ymlacio oedd bwriad y rhan fwyaf o'r oedolion.
Ar ddiwedd y dydd aeth rahi i wledda ar Sglodion a Pysgodyn tra aeth eraill am hufen ia cyn dychwelyd am adre wedi diwrnod i'r brenin.