Ar fore Dydd Sul 21 Hydref cynhaliwyd Gwasanaeth
Diolchgarwch Gellimanwydd.
Roedd y capel wedi ei addurno, yn ôl yr arfer, gan y
chwiorydd a hyfryd oedd gweld y blodau a’r llysiau o amgylch yr adeilad.
Eleni roedd yr oedolion
a’r plant yn cymryd rhan gyda eu gilydd yn yr oedfa. Arbrawf hynod
llwyddiannus. Canwyd Salm i ddechrau ac yna daeth y plant ymlaen a’u bocsus esgidiau wedi eu llenwi gyda
anrhegion ar gyfer “Operation Christmas Child”.
Hyfryd oedd gweld cymaint o blant bach yn cymryd rhan a phob
un yn gwneud eu rhan mor broffesiynol.
Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn Neuadd Gellimanwydd
drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi.
No comments:
Post a Comment