Saturday, July 14, 2012
Trip Ysgol Sul - Dinbych y Pysgod
Unwaith eto buom yn hynod ffodus gyda'r tywydd ar Ddydd Sadwrn 30 Mehefin pan aethom ar ein trip blynyddol i Ddinbych y Pysgod. Oherwydd y tywydd cyfnewidiol a'r ffaith bod gennym nifer o deuluoedd ifanc yn mynychu'r Ysgol Sul penderfynwyd mynd mewn ceir yn hytrach na bws y tro hwn.
Roeddem yn ffodus dros ben gyda'r tywydd, fel y gwelwch yn y llun. Er iddi fwrw glaw yn Rhydaman, a'r rhan fwyaf o Gymru mae'n siwr cawsom ddiwrnod hyfryd ar y traeth yn Ninbych y Pysgod.
Yn wir roedd ambell un wedi llosgi ei goesau a'i gorun oherwydd iddo beidio defnyddio eli haul.
Manteisiodd y plant ar y cyfle i fynd i mewn i'r mor tra ymlacio oedd bwriad y rhan fwyaf o'r oedolion.
Ar ddiwedd y dydd aeth rahi i wledda ar Sglodion a Pysgodyn tra aeth eraill am hufen ia cyn dychwelyd am adre wedi diwrnod i'r brenin.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment