Prynhawn Dydd Sul 18 Rhagfyr 2011 am 3.00pm cynhaliwyd gwansanaeth Nadolig Gellimanwydd. Cawsom ein harwain gan Dafydd Llywelyn, Mari Llywelyn ac Elan Daniels tuag at y preseb.
Dafydd oedd yn chwarae rhan Joseff, Macey rhan Mair a Catrin rhan Gabriel. Roedd Cari Beth, Efa Haf, Efa Nel, Elen Gwen, Eve, Ffion, Gwenan, Gwenno, Kalyn, Mali, Manon, Marged Alaw, yn angylion a Cian, Ianto, Luke, a Tomos yn fugeiliaid. Roedd rhannau'r doethion a rhai o'r bugeiliaid yn cael eu chwarae gan rhieni ac oedolion.
Roedd rhieni yn darllen o'r beibl a chyflwyno'r emynau. Yn ogystal roedd tri cor yn canu eitemau o dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd a Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio.
Roedd y casgliad yn mynd tuag at Shelter Cymru. Hyfryd oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer yr oedfa o ddathlu a mawl. Hefyd hyfrydwch oedd gweld plant, rhieni, aelodau a ffrindiau'r eglwys yn cyd-dddathlu drwy gymryd rhan yn drama fawr y Nadolig.
Wedi'r oedfa aeth pawb i Neuadd Gellimanwydd i barhau a'r dathlu a chael parti Nadolig.
Awn i Fethlem, bawb dan ganu,
neidio, dawnsio a difyrru,
i gael gweld ein Prynwr c’redig
aned heddiw, Ddydd Nadolig.
No comments:
Post a Comment