Bydd Capel Gellimanwydd yn cynnal ei Gwasanaethau Nadolig ar Dydd Sul 18 Rhagfyr 2011.
Yn y bore byddwn yn uno gyda Eglwys Moreia, Tycroes ar gyfer Gwasanaeth Nadolig ar y cyd yn Moreia am 10.30. I ddilyn byddwn yn cael cyfle i gymdeithasu yn Festri Moreia a rhannu Cwpanaid o de a mins peis.
Yna am 3.00 o'r gloch y prynhawn byddwn yn cynnal Oedfa Nadolig Plant ac Ieuenctid yr Ysgol Sul yng Ngellimanwydd, gyda'r oedolion yn cynorthwyo.
Wedi'r oedfa byddwn yn dathlu'r Nadolig drwy gael Parti Nadolig yn y Neuadd. Mae croeso cynnes i bawb a gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno a ni. Gobeithio bydd Sion Corn yn galw yn ystod y Parti.
Ar fore Dydd Nadolig cynhelir Cymun Bore Nadolig am 8.30
No comments:
Post a Comment