Unwaith eto eleni yn ystod Cwrdd Diolchgarwch Plant yt Ysgol Sul roeddem yng Ngellimanwydd yn casglu bocsus esgidiau ar gyfer Operation Christmas Child.
Oeddech chi’n gwybod bod hyn i gyd wedi dechrau yn 1990 pan wnaeth dyn o’r enw David Cooke o Wrexham weld lluniau ar y teledu o blant amddifad heb ddim mewn cartrefi plant yn Romania.
Gofynnodd Mr Cooke i’w ffrindiau ei helpu i lenwi lori fawr gyda tegannau er mwyn ei dreifio i Romania i rhoi anrhegion i’r plant.
Roedd ymateb pobl lleol mor dda fe wnaeth gasglu gwerth £60,000 a chafodd Operation Christmas Child ei sefydlu, ac yn mis Rhagfyr 1990 aeth confoi o dryciau i Romania gyda 17 gwirfoddolwr. Ymysg yr anrhegion oedd y bocsus esgidiau cyntaf i gael eu llenwi gyda anrehgion. Wrth weld wynebau’r plant yn derbyn y bocsus fe wnaeth y gwirfoddolwyr ddweud eu bod am barhau gyda’r gwaith ar ol cyrraedd adref.
Erbyn 1995 wnaeth Operation Christmas Child uno gyda’r Samaritan’s Purse, a chafodd yr apel bocsus esgidiau ei lansio mewn gwledydd eraill. Cafodd 280,000 bocs ei ddosbarthu ar draws Kenya, Rwanda, Moscow, Romania, Bosnia, Hungary, Albania a Serbia.
Erbyn heddiw mae’r ymgyrch yn dosbarthu 1,200,000 (1.2 miliwn) o focsus esgidiau o Brydain ac Iwerddon pob blwyddyn ac mae bocsus esgididiau plant Gellimanwydd ymysg y rhain.
No comments:
Post a Comment