Nos Sul 9 Hydref am 5.30 cynhaliwyd gwasnaeth diolchgarwch yr oedolion yng nghapel Gellimanwydd.
Cawsom ein harwain gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees, ac yna daeth nifer ymlaen i ddiolch i'r Arglwydd mewn darlleniadau, adroddiadau a chanu emynau.
Yn ystod yr oedfa cawsom eitemau gan dri Côr, sef parti merched, parti dynion a chôr y Capel.
Yn eu harwain oedd Mrs Gloria Lloyd gyda Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio ar yr organ. I gloi'r oedfa offrymwyd Y fendith gan y Parchg Canon John Gravelle.
"Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear.
Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuch o'i flaen ef â chân."
No comments:
Post a Comment