Llun clawr yr albwm
Llongyfarchiadau mawr i Mari Llywelyn ac Elan Daniels o Ysgol Sul Gellimanwydd am ddod yn ail yng Nghystadleuaeth Tlws Cyfundeb Lerpwl.
Ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf yng Nghyfarfod Blynyddol Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg yn Biwmaris cyhoeddwyd enillwyr Cwpan Denman a Tlws Lerpwl a daeth Ysgol Sul Gellimanwydd yn ail yng nghystadleuaeth y Tlws.
Cywaith o 20 llun yn dangos yr Eglwys ar Waith oedd y gystadleuaeth ac roedd Elan a Mari wedi dangos holl waith Eglws Gellimanwydd mewn albwm hardd.
Cyflwynwyd gwobr o £50 i'n Gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees yn y Cyfarfod Blynyddol.
No comments:
Post a Comment