Sunday, June 26, 2011

Chwiorydd Annibynwyr y De

 Mrs. Carys Williams, Penarth yn cyflwyno Beibl y Dalaith i Mrs. Bethan Thomas, Gellimanwydd

Cynhaliodd Adran Chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith De Cymru, eu cyfarfod blynyddol eleni yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman a hynny am y tro cyntaf. Braf oedd gweld capel llawn gyda chwiorydd o’r gwahanol ardaloedd yn y De, o’r Barri i Borth Tywyn, yn bresennol.
Llywyddwyd y rhan gyntaf o’r oedfa gan Carys Williams, Penarth (gweddw’r Parch. Meurwyn Williams) ac fe ddarllenwyd o’r Ysgrythur gan Pat Thomas ac Iris Cobbe gyda Gill Lloyd, Penarth yn arwain mewn gweddi. Yn ystod y gwasanaeth urddwyd Bethan Thomas, Gellimanwydd yn lywydd. Bu Bethan yn ysgrifennydd yr adran am dros ddegawd yn y nawdegau.

‘Bara – Y Gwir Fara’ oedd thema’r gwasanaeth. Cafwyd cyflwyniad o ‘Bara Angylion Duw’ gan barti o chwiorydd o gapeli’r Gwynfryn a Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes. Hilary Davies oedd wedi paratoi’r parti a Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio wrth yr organ ac yn ystod y gwasanaeth. Cafwyd anerchiad ysbrydoledig a gofir am amser maith gan Hazel Charles Evans, Llandybïe.
Mi roedd merched Gellimanwydd wedi paratoi’n helaeth gogyfer a’r holl chwiorydd oedd yn bresennol. Cafodd pawb gyfle i gymdeithasu a sgwrsio dros baned a lluniaeth yn Neuadd Gellimanwydd wedi’r oedfa.

No comments: