I ddechrau gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol trefnwyd Gwasanaeth Undebol Dwyieithog yng Ngellimanwydd. Trawsnewid Cymunedau oedd y testun a cawsom ein harwain gan aelodau'r Capel mewn gweddiau, darlleniadau, myfyrdodau ac emynau. Y mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn rhoi’r cyfle i ni edrych allan o’n bywydau a’n pryderon dyddiol at y darlun ehangach, i fyd o ddioddefaint a gobaith. Yr ydym oll yn rhan o’r darlun ehangach, p’un ai y sylweddolwn hynny neu beidio. Mae Iesu yn ein gwahodd i ddewis bywyd.Yn ogystal dangoswyd ffilm Cymroth Cristnogol "Allan o Dlodi" oedd yn dangos ymdrechio criw Cymorth Cristnogol Sevenoaks ac yn adrodd stori’r trawsnewid rhyfeddol yng nghymunedau ffermio coffi Nicaragua.
Hyfryd oedd gweld y Neuad dyn llawn ac wedi'r oedfa casom gyfle i rannu cwpoanaid o goffi a bisgedi.
Am yr holl ffyrdd y mae Cymorth Cristnogol yn helpu trawsnewid cymunedau,
gan alluogi ein chwiorydd a’n brodyr
i fyw bywydau mwy cyflawn
Diolch i Dduw.
Yr ydym yn rhan o hynny!
Diolch i Dduw.
Amen.
No comments:
Post a Comment