Dydd Sul 22Mai am 10.30 cynhaliwyd Bwrlwm Bro’r Ysgolion Sul yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth criw da ynghyd o gapeli Brynaman, Capel Hendre Llangennech Pontarddulais, a Rhydaman,
Mr Nigel Davies, Swyddog Swyddog Plant / Ieuenctid, Menter Ieuenctid Cristnogol Sir Gâr oed dyn gyfrifol am y bore. Drwy gyfrwng PowerPoint a fideo cawsom hanes y dyn dall a iachawyd gan Iesu trwy roi mwd ar ei lygaid. Yna cafodd y plant gyfle I gymryd rhan mewn gweithgareddau a gemau yn seilidig ar yr hanes.
Prif bwrpas Bwrlwm Bro yw calonogi gwaith yr Ysgol Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd. Roedd y sesiwn wedi ei gynllunio’n ofalus o gwmpas hanes “ iachau y dyn dall ger Pwll Siloam” ac yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.
Cafodd y plant brofiad llawn hwyl, tra ar yr un pryd cyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.
Y gweithgaredd nesaf bydd Mabolgampau Dan Do ar gyfer Ysgolion Sul / clybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin Dwyrain Sir Gâr yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman ar Nos Lun Gorffennaf 11eg.
No comments:
Post a Comment