Ar Nos Fercher 25 Chwefror daeth aelodau a chyfeillion Cymdeithas Gellimanwydd ynghyd i ddathlu Gwyl Dewi.
Cawsom noson o hwyl a sbri yng nghwmni ein gilydd. Unwaith eto roedd y bwyd yn flasus dros ben a'r cwmni yn cyfoethogi'r holl noson.
Mae pawb yn edrych ymlaen at y cyfarfod nesaf yn barod, pan gawn noson o frethyn cartref a drama yng ngofal Ruth Bevan.
No comments:
Post a Comment