Wednesday, February 04, 2009

CWIS BEIBLAIDD

Ar brynhawn Sul Chwefror 1af daeth tyrfa niferus ynghyd i Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman i gefnogi plant y dalgylch wrth iddynt gystadlu mewn Cwis Beiblaidd o dan drefniant Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Cymerwyd rhan gan 10 o Ysgolion Sul a chafwyd prynhawn llawn hwyl a chyffro wrth i’r plant ddangos dyfnder eu gwybodaeth trwy ateb cwestiynau wedi eu gosod mewn amrywiaeth o ffyrdd deniadol. Tim Gellimanwydd oedd Elan Daniels, Sara Mai Davies, Harri Jones, a Mari Llywelyn.
Roedd yr achlysur yn un proffesiynol a chyfoes gyda bysyrs electronig, power point, a system sain. Roedd ymateb y plant yn frwdfrydig a da oedd gweld y to ifanc yn cael hwyl o gwmpas y Gair.

Canlyniadau
Roedd y gystadleuaeth yn un bywiog a difyr. Cael hwyl wrth gymryd rhan oedd y peth mawr, ond yn sgìl hynny, mae`n amlwg bod y plant wedi dysgu llawer, a gobeithio magu blas tuag at Air Duw.

Roedd y canlyniadau fel a ganlyn:
1af – Penuel, Caerfyrddin
2ail – Providence, Llangadog
Cyflwynwyd cwpan sialens i`r tîm buddugol ynghyd a thlysau unigol i`r plant hynny wnaeth gyrraedd y rownd derfynol gan gadeirydd y Fenter, sef Mr. Mel Morgans.

Dymuna Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin nodi gwerthfawrogiad o`r defnydd a gafwyd o Neuadd Gellimanwydd ac o garedigrwydd chwiorydd y capel i ddarparu lluniaeth ar gyfer y timoedd. Y fenter nesaf a drefnir ar gyfer plant y dalgylch bydd penwythnos yn Nhrefeca ac yn dilyn hynny ar Ebrill 8fed yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman cynhelir cystadlaethau chwaraeon pêl droed a phêl rwyd. Am fanylion pellach neu ffurflen gofrestru cysylltwch â Nigel Davies ar (01994)230049.
E
-bost: gogmyrddin@uwclub.net

No comments: