

Yn hytrach na'r parti arferol yn Neuadd Gellimanwydd cawsom un gwahanol iawn eleni. Ar brynhawn dydd Mawrth 22 Rhagfyr aethom i Funsters, Capel Hendre ar gyfer parti Nadolig yr Ysgol Sul. 

Yn hytrach na'r parti arferol yn Neuadd Gellimanwydd cawsom un gwahanol iawn eleni. Ar brynhawn dydd Mawrth 22 Rhagfyr aethom i Funsters, Capel Hendre ar gyfer parti Nadolig yr Ysgol Sul.
Nos Sul 20 Rhagfyr am 5.30 cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y plant a'r bobl ifanc. Roedd cynulleidfa niferus o aelodau a ffrindiau wedi dod ynghyd i ymuno yn yr addoli a'r dathlu.
Ym mis Medi eleni ffurfiwyd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) mewn ymateb i ddymuniad gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin am gefnogaeth i ddatblygu gwaith ymhlith plant ac ieuenctid. Prif nod y Fenter newydd yw hybu tystiolaeth yr efengyl ymysg yr ifanc a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes.

Nos Fercher 4 Tachwedd daeth Cwmni Drama y Gwter Fawr atom i'r Gymdeithas i gyflwyno dwy ddrama sef "Corfu" a "Domino".
Cynhaliwyd cyrddau Diolchgarwch Gellimanwydd ar ddydd Sul Hydref 11.
Yn y nos cawsom Oedfa Ddiolgarwch yr oedolion. Unwaith eto hyfrydwch oedd gweld cymaint yn y gynulleidfa. Cawsom eitemau gan y côr merched, côr dynion a’r côr cymysg, a diolch i Mrs Gloria Lloyd am ei holl waith yn hyfforddi’r partion a Mr Cyril Wilkins yn ei chynorthwyo. Yn ogystal cawsom ynghyd a darlleniadau ac adroddiadau ac anerchiad pwrpasol gan ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees.
Nos Lun 5 Hydref roedd Y Parchg Geraint Tudur, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn annerch Cyfarfod Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman yn Neuadd Gellimanwydd.
Nos Fercher 30 Medi cynhaliwyd Swper Diolchgarwch y Gymdeithas. Y gwesteion oedd Y Canon a Mrs John Gravell. Llywydd y noson oedd Miss Rowena Fowler.
Mr Norman Richards, Llywydd Pwyllgor yr Ofalaeth ynghyd a'r Parchg Dyfrig Rees a Mrs Mandy Rees a'u meibion, Rhodri a RheinalltAr Sul hyfryd a heulog o Fedi daeth aelodau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i ddathlu 25 mlynedd y Parchg Dyfrig Rees yn y weinidogaeth.
Felly roedd Oedfa Foreol Sul 20 Medi 2009 yn un arbennig iawn yng Ngellimanwydd. Nid yn unig oedd ein ffrindiau o 'n chwaer eglwys Moreia Tycroes yn ymuno a ni ar gyfer oedfa ar y cyd ond hefyd roedd yn gyfle i'r ddwy eglwys ddiolch i'r Parchg Dyfrig Rees am 25 mlynedd o wasanaeth fel gweinidog yr Efengyl.
Braf oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer yr achlysur. Cawsom oedfa fendthiol gan ein Gweinidog.
Cafodd Mr Rees ei ordeinio yn Llanbrynmair ac yna wedi sawl blwyddyn gadawodd mwynder Maldwyn am Gwm Gwendraeth, bro ei febyd, cyn dod atom ni i'r ofalaeth hon bron i ddeng mlynedd yn ol. Mae yn uchel iawn ei barch ym mysg yr aelodau a'i gydnabod, yn bregethwr huawdl a graenus ac yn fugail ffyddlon.
Dydd Sadwrn 3 Medi aeth llond bws o aelodau a ffrindiau Cymdeithas Gellimanwydd ar ein trip blynyddol.
Mr a Mrs Nigel Davies, yn derbyn rhodd ar ran aelodau Menter Cyd-enwadol Gogledd Myrddin yn gydnabyddiaeth am ei waith fel Swyddog Ieuenctid dros y dair blynedd diwethaf. Yn y llun hefyd mae cynrychiolwyr o'r ysgolion Sul a Swyddogion y Fenter.
Roedd Rosfa ar ei orau yn cael ymateb arbennig gan y plant. Hyfryd oedd gweld a chlywed eu gwerthfawrogiad o'r "hud a lledrith" yn y triciau.
Ar Ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf aeth llond bws ohonom i Ddinbych y Pysgod ar drip blynyddol y Capel a'r ysgol Sul.
Hyfryd oedd cael cwmni ein gilydd i rannu sgwrs melys ar y "deck chairs". Hefyd hyfryd oedd clywed cymaint o Gymraeg ar y traeth a strydoedd y dref gyda nifer o Gapeli, gan gynnwys Capel Hendre, Hope, Pontarddulais a Capel y Nant, Clydach, yn gwneud yr union yr un fath a ni a dod i Ddinbych y pysgod am drip Ysgol Sul . Cyn troi am adref roedd rhaid archebu pysgod a sglodion i wneud y diwrnod yn gyflawn. 

I ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol eleni cynhaliwyd Gwasanaeth Dwyieithog Undebol yng Ngellimanwydd ar Nos Sul 10 Mai. Ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees oedd yn arwain y gwasanaeth. Drwy gyfrwng storiau, myfyrdodau, darlleniadau a fideos clywsom am am ran Cymorth Cristnogol yn cynnal fflam gobaith ar gyfer rhai o’r cymunedau tlotaf yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo – gwlad sy’n dod allan o dywyllwch gwrthdaro ac yn ymsefydlu mewn gobaith bregus. Drwy hanesion pobl ifanc yn Kinshasa, a thrwy eiriau’r ysgrythur, cawsom ein hysbrydoli drachefn, yn barod i roi cariad ar waith dros gymunedau tlawd yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol a thu hwnt.
"A dyma'r gorchymun sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd". 1 Ioan 4:21

Cynhaliwyd y GYMANFA GANU UNDEBOL ar Ddydd Sul Y Blodau, 5ed Ebrill 2009 yng Nghapel y Gwynfryn. Braf oedd gweld cymaint o aelodau Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser yn ymuno yn y Gymanfa.Yr arweinydd oedd Mrs Ann Davies, LLCM, Llanarthne. Mrs Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio wrth yr organ.Llywyddwyd yn y bore gan Gapel Hendre a Gosen yn yr hwyr.
Ar ddiwedd mis Mawrth i gloi gweithgareddau'r tymor cafodd aelodau Clwb Hwyl Hwyr Rhydaman barti mawr yn lle chwarae Fantasia yng Nghapel Hendre. Fe ddaeth bron i 20 o aelodau i’r parti ac fe fuodd y plant yn sglefrio, chwarae a mwynhau pryd o fwyd. Fel y gwelir yn amlwg o’r lluniau fe wnaeth pawb fwynhau yn fawr iawn. 