Sunday, September 23, 2012

Casglu handbags

Mae Gellimanwydd yn cefnogi ymgyrch Merched Y Wawr i gasglu handbags, gyda'r elw yn mynd tuag at Cymorth Cristnogol. Felly dewch a'ch bagiau at Elan a Mari.

Saturday, September 22, 2012

Taith gerdded Cymorth Cristnogol


Dydd Sadwrn, 22 Medi cynhaliwyd taith gerdded Cymroth Cristnogol Rhydaman. Roedd criw da wedi dod ynghyd o nifer o gapeli ac eglwysi’r dref.  Cawsom dywydd bendigedig a ‘r daith yn hynod bleserus gan ddilyn yr afon ar hyd y llwybr o Garnant i Rhydaman. Ar ol cyrraedd Rhydaman cawsom gwpanaid o de yn Neuadd Gellimanwydd. Mae’r arian yn dal i ddod i mewn ond llwyddwyd i gasglu swm anrhydeddus tuag at Ymgyrch  Cymorth Cristnogol y dref.
Yn wir mae'n bleser cyhoeddi bod Pwyllgor Cymorth Cristnogol Rhydaman yn cyfrannu dros £8,000 yn flynyddol tuag at yr elusen.

Thursday, July 19, 2012

YSGOL SUL


Ar fore Dydd Sul  15 Gorffennaf i orffen tymor yr Ysgol Sul am yr haf cawsom Gellilympics, neu mabolgampau dan do a hot dogs i ddilyn.

Hyfryd oedd gweld yr oedolion yn dod i'r Neuadd wedi'r oedfa foreol i ymuno yn yr hwyl. Cawsom gemau fel  Ras gwisg ffansi, ras gyfnewid a ras llwy ar wy.

Wedi'r rasio cawsom gyfle i gymdeithasu drwy rannu Hot Dogs, gyda sos coch a wninwns wrth gwrs a chwpanaid o de neu goffi i'r oedolion a sudd oren i'r plant.

Hoffai athrawon yr Ysgol Sul ddiolch i bawb am bob cefnogaeth yn ystod y flwyddyn, yn enwedig y rhieni a'r plant. Dymunwn haf hapus i bawb ac edrychwn ymlaen i'ch croesawu yn ol wedi'r gwyliau haf.

Saturday, July 14, 2012

Trip Ysgol Sul - Dinbych y Pysgod


Unwaith eto buom yn hynod ffodus gyda'r tywydd ar Ddydd Sadwrn 30 Mehefin pan aethom ar ein trip blynyddol i Ddinbych y Pysgod. Oherwydd y tywydd cyfnewidiol a'r ffaith bod gennym nifer o deuluoedd ifanc yn mynychu'r Ysgol Sul penderfynwyd mynd mewn ceir yn hytrach na bws y tro hwn.
Roeddem yn ffodus dros ben gyda'r tywydd, fel y gwelwch yn y llun. Er iddi fwrw glaw yn Rhydaman, a'r rhan fwyaf o Gymru mae'n siwr cawsom ddiwrnod hyfryd ar y traeth yn Ninbych y Pysgod.
Yn wir roedd ambell un wedi llosgi ei goesau a'i gorun oherwydd iddo beidio defnyddio eli haul.
Manteisiodd y plant ar y cyfle i fynd i mewn i'r mor tra ymlacio oedd bwriad y rhan fwyaf o'r oedolion.
Ar ddiwedd y dydd aeth rahi i wledda ar Sglodion a Pysgodyn tra aeth eraill am hufen ia cyn dychwelyd am adre wedi diwrnod i'r brenin.

Monday, June 18, 2012

TRIP YSGOL SUL

Eleni unwiath eto mae'r ysgol Sul yn mynd am drip blynyddol, ac yn ol yr arfer byddwn yn mynd i Ddinbych y Pysgod.
Felly beth am ymuno a ni ar Ddydd Sadwrn 30 Mehefin. Bydd y bws yn gadael y Capel am 9.00 a dychwelyd o Ddinbych y Pysgod am 5.00

Os hofech ddod gadewch i Edwyn Williams wybod. 01269 845435