Mae Clwb Hwyl Hwyr wedi ail ddedchrau wedi seibiant dros yr haf. Ar Nos Wener, 24 Medi daeth Mr Nigel Davies, Swyddog Menter Ieuenctid Cristnogol (Mic) Sir Gaerfyrddin. Daeth criw da ynghyd i Neuadd Gellimanwydd i fwynhau’r noson.
Dechreuodd Mr Davies drwy adrodd hanes Gideon drwy gyfrwng Powerpoint a DVD. Yna chwaraewyd nifer o gemau cyffrous a gorffen drwy rannu poop a crisps. Roedd yn noson hwylus dros ben.
Clwb Cristnogol Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr ac rydym yn cwrdd yn Neuadd Gellimanwydd bob Nos Wener yn ystod tymor yr ysgol.
Eleni hefyd rydym yn rhedeg Clwb yn arbennig ar gyfer plant ysgol uwchradd blynyddoedd 7-9 ar y Nos Wener cyntaf y mis. Y noson gyntaf oedd ar 1 Hydref pan cawsom Barti Pizza!
Saturday, September 25, 2010
Friday, August 27, 2010
Monday, July 19, 2010
MABOLGAMPAU YSGOLION SUL
Fel yr adroddwyd yn y neges diwethaf cynhaliwyd rowndiau terfynol Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul / clybiau Cristnogol Sir Gaerfyrddin yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar Nos Lun 19 Gorffennaf. GwnAeth tim oedran ysgol uwchradd Gellimanwydd cystal a'r tim cynradd a llwyddwyd pawb i ennill medal.
Unwaith eto - LLONGYFARCHIADAU I BAWB.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) wedi bod yn brysur yn trefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin. Daeth gwaith y tymor i derfyn gyda rowndiau terfynol mabolgampau dan do yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin. Roedd y noson hon yn dilyn rowndiau rhagbrofol a gynhaliwyd yng nghanolfannau hamdden Castell Newydd Emlyn a Rhydaman.
Daeth tyrfa enfawr ynghyd i gefnogi’r achlysur ac roedd y ganolfan hamdden yng Nghaerfyrddin yn llawn i’r ymylon. Bu’r noson yn un llawn bwrlwm a chyffro wrth i blant ac ieuenctid, yn cynrychioli 23 o eglwysi, gymryd rhan yn y rowndiau terfynol.
MABOLGAMPAU YSGOLION SUL
Nos Lun 19 Gorffennaf cynhaliwyd rowndiau terfynol y Sir o fabolgampau Dan Do ysgolion Sul / clybiau Cristnogol Sir Gaerfyrddin. Daeth tyrfa gref i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin i gefnogi'r plant a cawsom noson yn llawn bwrlwm a hwyl.
Roedd y cystadleuthau yn cynnwys rhedeg, trac, tynnu rhaff a rasus cyfnewid ar gyfer pob oed. Dechreuwyd gyda'r oedran ysgol gynradd.
Gwnaeth pob un o blant Gellimanwydd yn arbennig o dda a llwyddwyd i ennill sawl medal.
LLONGYFARCHIADAU I CHI GYD.
Thursday, July 08, 2010
Mabolgampau Dan Do
Nos Lun 5ed Gorffennaf cynhaliwyd Mabolgampau Dan Do ar gyfer ysgolion Sul a chlybiau ieuenctid Cristnogol Dwyrain Sir Gaerfyrddin yn Neuadd Chwaraeon Rhydaman. Roedd y cystadleuthau wedi eu rhannu i ddau oed, sef Meithrin a blynyddoedd 2, a Cynradd blynyddoedd 3-6.
Roedd y cystadleuthau yn cynnwys rhedeg, rasus cyfnewid, taflu pel, naid hir, naid driphlyg, neidio cyflym, taflu pwysau a tynnu rhaff.
Gwnaeth pawb o dim Gellimanwydd yn arbennig o dda ac mae nifer yn mynd trwyddo i'r rowndiau terfynol, gan gynnwys timau rhedeg cyfnewid a'r tim tynnu rhaff.
Cynhelir y rowndiau terfynol y sir gan gynnwys cystadleuthau uwchradd yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar Nos Lun 19 Gorffennaf.
Subscribe to:
Posts (Atom)







