Fel yr adroddwyd yn y neges diwethaf cynhaliwyd rowndiau terfynol Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul / clybiau Cristnogol Sir Gaerfyrddin yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar Nos Lun 19 Gorffennaf. GwnAeth tim oedran ysgol uwchradd Gellimanwydd cystal a'r tim cynradd a llwyddwyd pawb i ennill medal.
Unwaith eto - LLONGYFARCHIADAU I BAWB.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) wedi bod yn brysur yn trefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin. Daeth gwaith y tymor i derfyn gyda rowndiau terfynol mabolgampau dan do yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin. Roedd y noson hon yn dilyn rowndiau rhagbrofol a gynhaliwyd yng nghanolfannau hamdden Castell Newydd Emlyn a Rhydaman.
Daeth tyrfa enfawr ynghyd i gefnogi’r achlysur ac roedd y ganolfan hamdden yng Nghaerfyrddin yn llawn i’r ymylon. Bu’r noson yn un llawn bwrlwm a chyffro wrth i blant ac ieuenctid, yn cynrychioli 23 o eglwysi, gymryd rhan yn y rowndiau terfynol.
No comments:
Post a Comment