Dyma'r plant yn ymarfer yn galed.
Tuesday, December 24, 2013
Tuesday, November 26, 2013
Joio Gyda Iesu
Ar
brynhawn Sul Tachwedd 3ydd cynhaliwyd oedfa flynyddol Menter Ieuenctid
Cristnogol sir Gaerfyrddin - “Joio
Gyda Iesu” - yng nghapel Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth tyrfa fawr o rai
cannoedd ynghyd ac roedd yn olygfa odidog i weld y capel yn gyffyrddus lawn.
Nod yr oedfa oedd cyflwyno neges efengyl yr Arglwydd Iesu Grist mewn ffordd
gyfoes, syml a pherthnasol ar gyfer ein dydd.
Arweiniwyd yr addoliad mewn ffordd fywiog a
medrus gan fand lleol - “Y Diarhebion”- a chymerwyd rhan gan gynrychiolwyr o
Ysgolion Sul yr ardal. Cafwyd cyflwyniad graenus ar lafar ac ar gân gan blant o
Ysgol Gymraeg Rhydaman ar y thema, “Heddwch Drwy’r Byd.” Fel arwydd o
werthfawrogiad am gyfraniad yr ysgol, cyflwynodd Y Parchg. Tom Defis (cadeirydd
M.I.C.) gopi o’r llyfr canu Cristnogol cyfoes, “Y Cyntaf A’r Olaf” i’r
prifathro, Mr. Geraint Davies.
Un
o’r gwestai gwadd eleni oedd Iestyn ap Hywel sy’n Arolygwr ac Ysgogydd Eglwysig
gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn sir Gaerfyrddin. Rhannodd mewn ffordd syml
a diddorol ei brofiad o’r Arglwydd a’r modd y daeth i ffydd bersonol yn Iesu
Grist.
Yn
dilyn y sgets daeth yr ail westai i’r blaen, sef Y Parchg. Ian Hughes o
Lanelli. Yn ei ffordd unigryw ei hun cyflwynodd neges bwrpasol a chyflwynwyd y
fendith gan Edwyn Williams o Gellimanwydd.
Dymuna
pwyllgor M.I.C. ddiolch yn fawr i eglwys Gellimanwydd, Rhydaman am gael defnydd
o’r adeilad ac i bawb wnaeth gymryd rhan a chyfrannu at oedfa arbennig iawn. (Am ragor o
luniau ewch i wefan M.I.C. ar www.micsirgar.org.
Wednesday, November 20, 2013
Cyfarfodydd Cymorth Cristnogol
Cynhaliwyd Cwis blynyddol Cymorth Cristnogol, cangen Rhydaman
ar Nos Wener 15 Tachwedd yn Neuadd
Gellimanwydd. Roedd stondianau Traidcraft a chardiau Nadolig ar werth a hyfryd
oedd gweld 6 capel ac eglwys yn cystadlu. Y tim buddugol oedd “Manwydd” sef
Mandy Rees, Linda Williams a’r parchg Dyfrig Rees o Gellimanwydd. Y cwis feistr
oedd Edwyn Williams.
Yna ar Nos Sul 17 Tachwedd
cawsom gyfarfod yng yng Nghapel Ebeneser am 5.30 pan roedd Y Parchg Tom Davies, Cymorth Cristnogol yn
annerch. Dechreuodd y Parchg John Talfryn Jones y cyfarfod drwy groesawu pawb ac yna Mrs Ann Jewell yn darllen o’r beibl. Cawsom
hanes ar sut mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y
byd i ddileu tlodai a rhoi gobaith ar waith drwy fyw ein ffydd gan Y Parchg Tom
Davies. Cyflwynwyd y diolchiadau gan Y Parchg Dyfrig Rees. Mae’n diolch yn mynd
i Mrs Ann Jewell am drefnu’r ddau achlysur
Thursday, November 14, 2013
CYMORTH CRISTNOGOL
Gwasanaeth Cymorth Cristnogol
Ebeneser Rhydaman
5.30 Nos Sul 17 Tachwedd.
Bydd Y Parch Tom Davies yn son am gydweithio mewn argyfwng.
HEFYD AR Nos Wener 15 Tachwedd yn Neuadd Gellimanwydd am 7.00pm cynhelir y
Cwis blynyddol Cymorth Cristnogol.
Pris mynediad yw £1 gan gynnwys te a bisgedi.
Croeso i bawb i'r ddau ddigwyddiad
Subscribe to:
Posts (Atom)




