Ar
brynhawn Sul Tachwedd 3ydd cynhaliwyd oedfa flynyddol Menter Ieuenctid
Cristnogol sir Gaerfyrddin - “Joio
Gyda Iesu” - yng nghapel Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth tyrfa fawr o rai
cannoedd ynghyd ac roedd yn olygfa odidog i weld y capel yn gyffyrddus lawn.
Nod yr oedfa oedd cyflwyno neges efengyl yr Arglwydd Iesu Grist mewn ffordd
gyfoes, syml a pherthnasol ar gyfer ein dydd.
Arweiniwyd yr addoliad mewn ffordd fywiog a
medrus gan fand lleol - “Y Diarhebion”- a chymerwyd rhan gan gynrychiolwyr o
Ysgolion Sul yr ardal. Cafwyd cyflwyniad graenus ar lafar ac ar gân gan blant o
Ysgol Gymraeg Rhydaman ar y thema, “Heddwch Drwy’r Byd.” Fel arwydd o
werthfawrogiad am gyfraniad yr ysgol, cyflwynodd Y Parchg. Tom Defis (cadeirydd
M.I.C.) gopi o’r llyfr canu Cristnogol cyfoes, “Y Cyntaf A’r Olaf” i’r
prifathro, Mr. Geraint Davies.
Un
o’r gwestai gwadd eleni oedd Iestyn ap Hywel sy’n Arolygwr ac Ysgogydd Eglwysig
gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn sir Gaerfyrddin. Rhannodd mewn ffordd syml
a diddorol ei brofiad o’r Arglwydd a’r modd y daeth i ffydd bersonol yn Iesu
Grist.
Yn
dilyn y sgets daeth yr ail westai i’r blaen, sef Y Parchg. Ian Hughes o
Lanelli. Yn ei ffordd unigryw ei hun cyflwynodd neges bwrpasol a chyflwynwyd y
fendith gan Edwyn Williams o Gellimanwydd.
Dymuna
pwyllgor M.I.C. ddiolch yn fawr i eglwys Gellimanwydd, Rhydaman am gael defnydd
o’r adeilad ac i bawb wnaeth gymryd rhan a chyfrannu at oedfa arbennig iawn. (Am ragor o
luniau ewch i wefan M.I.C. ar www.micsirgar.org.
No comments:
Post a Comment