Saturday, March 12, 2011

BANANA SPLIT ENFAWR MASNACH DEG

Fel mae llawer yn gwybod mae aelodau o Gellimanwydd yn hynod weithgar gyda Clwb Hwyl hwyr, sef clwb Cristnogol ar gyfer plant oedran ysgol sydd yn cwrdd yn Neuadd y capel pob Nos Wener.
Ar Nos Wener 11 Mawrth yn hytrach na cwrdd yn y neuadd roedd aelodau'r clwb yn helpu adeiladu , a bwyta! y Banana Split Masnach Deg enfawr yn Arcade Rhydaman. Dyma'r trydydd flwyddyn i ni gynnal y banana split ac roedd eleni yn well nag un y llynedd.
I ddechrau roedd angen gosod y byrddau ar hyd yr arcade, yna y cafnau. Roedd angen leinio'r cafn gyda ffoil aliminiwm.
Wedi hyn daeth pobl ifanc y capeli a clybiau ieuenctid cristnogol y dref i dorri'r bananas a'u gosod ar hyd y cafn. Y peth nesaf i wneud oedd rhoi'r hufen ia, hufen a saws siocled ar y banana split.
Erbyn 6.15 roedd popeth yn barod i'w fwyta. Cafodd pawb lwy ac ar ol i Paul Griffiths ddweud ewch dechreuodd pawb i fwyta.
Yn ogystal roedd stondin yn gwerthu nwyddau ar gyfer diwrnod Y Trwynau Coch sydd i'w gynnal nos Wener nesaf.



Friday, January 28, 2011

Y GYMDEITHAS

Ar Nos Fercher, 26 Ionawr, daeth criw da ynghyd ar gyfer noson o hwyl mewn ffurf cwis gan Edwyn Williams.  Croesawyd pawb i'r Neuadd gan Mrs Mandy Rees, yna rhannwyd pawb i wahanol dimau. Roedd rowndiau ar newyddion, storiau o'r beibl, lluniau o'r ardal a cherddoriaeth.
Diolchodd Mandy Rees i Edwyn am noson hwylus.
Yna cawsom gyfle i gymdeithasu drwy rannu cwpanaid o de a pice ar y maen.

Sunday, January 09, 2011

BLWYDDYN NEWYDD DDA

Ar drothwy'r Flwyddyn newydd hoffai holl aelodau Gellimanwydd Ddymuno'n dda i bawb.
Cafodd y tywydd effaith ar ein gwasanaethau diwedd 2010 ac erbyn hyn rydym i gyd yn edrych ymlaen at nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod 2011.
Mae'r ymarferion tuag at y Gymanfa wedi dechrau'n barod.
Hefyd mae Plant yr Ysgol Sul wrthi'n dechrau astudio ar gyfer y Cwis Beiblaidd Menter Ieuenctid Cristnogol Sir Gaerfryddin. Testynnau eleni yw Hanes Josua a Hanes Troedigaeth Paul ar gyfer yr oedran Cynradd a hanes Mair a Martha ac Atgyfodiad Lasarus ar gyfer yr oedran uwchradd.

CALENDR Y SULIAU - GWASANAETHAU 2011

TREFN Y CYFARFODYDD Y SUL
.
Y Bore am 10.30: Gwasanaeth Addoli
Y Bore am 11.00 tan 11.45: Ysgol Sul y Plant
Yr Hwyr am 5.30: Gwasanaeth Addoli
Gwasanaeth y Cymundeb: Bore Sul cyntaf bob mis ac yn yr hwyr ambell fis.
.
CALENDR Y SULIAU 2010
..
RHAGFYR
4- Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r bore
11- y Gweinidog
18 - Gwasanaeth Nadolig ar y cyd a Moreia ym Moreia am 10.30 y bore
Prynhawn - Oedfa Nadolig Plant yr Ysgol Sul am 3.00 y prynhawn, ac yna Parti Nadolig i Bawb yn y Neuadd
                 25 - Bore yn unig - Y Gweinidog. Cymun Bore Dydd Nadolig am 8.30 y bore
.
IONAWR 2012
1 - Bore yn unig - Y Gweinidog: Oedfa Gymun
8 - Miss Ruth Bevan, Rhydaman 
15 - Y Gweinidog.  Cymun yn oedfa'r hwyr
22 - Y Gweinidog. Cymun yn oedfa'r hwyr
29  - Y Gweinidog

Tuesday, December 07, 2010

GWASANAETHAU NADOLIG

Rhagfyr 19 
 Gwasanaeth Nadolig ar y cyd a Moreia yng Ngellimanwydd am 10.30 y bore
HWYR
 Oedfa Nadolig y Plant a'r Ieuenctid - GWYL Y GOLEUNI

Rhagfyr 25
 Y Gweinidog Cymun bore Nadolig am 8.30 y bore