Ar drothwy'r Flwyddyn newydd hoffai holl aelodau Gellimanwydd Ddymuno'n dda i bawb.
Cafodd y tywydd effaith ar ein gwasanaethau diwedd 2010 ac erbyn hyn rydym i gyd yn edrych ymlaen at nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod 2011.
Mae'r ymarferion tuag at y Gymanfa wedi dechrau'n barod.
Hefyd mae Plant yr Ysgol Sul wrthi'n dechrau astudio ar gyfer y Cwis Beiblaidd Menter Ieuenctid Cristnogol Sir Gaerfryddin. Testynnau eleni yw Hanes Josua a Hanes Troedigaeth Paul ar gyfer yr oedran Cynradd a hanes Mair a Martha ac Atgyfodiad Lasarus ar gyfer yr oedran uwchradd.
No comments:
Post a Comment