Friday, July 18, 2008

Mabolgampau Dan Do

Prin bydd y mabolgampau Olympaidd yn Beijing yn dod a mwy o hwyl a chyffro na chafwyd yn Rhydaman yn ddiweddar wrth i Ysgolion Sul dalgylch Gogledd Myrddin ddod ynghyd ar gyfer y noson mabolgampau blynyddol. Trefnwyd amrywiaeth eang o gystadlaethau a hynny ar gyfer pob oed o`r meithrin i fyny at ieuenctid 16 oed. Cafwyd cystadlu brwd yn y rhedeg a`r gweithgareddau maes a diweddwyd y nos ar nodyn cyffrous gyda`r cystadlaethau tynnu rhaff.

Cafwyd ymateb ardderchog gyda 16 o Ysgolion Sul yn cofrestru ac ymhell dros 100 yn cystadlu a thyrfa niferus iawn yn cefnogi. Gwych o beth oedd gweld y cyffro a`r llawenydd ar wynebau`r plant a`r cefnogwyr wrth i aelodau ifanc yr Ysgol Sul ymdrechu mewn un gamp ar ôl y llall. Gwobrwywyd y tri cyntaf ym mhob cystadleuaeth gyda medalau aur, arian neu efydd.

Mewn dyddiau pan mai ond lleiafrif bychan o`n cymdeithas sy`n mynychu Ysgol Sul neu glwb Cristnogol mor bwysig yw gweithgareddau o`r math hwn sy`n codi proffil gwaith yr eglwys ac sy`n dangos i`r to ifanc bod y ffydd Gristnogol yn ymestyn i bob agwedd o fywyd ac nid yn unig i oedfaon ar y Sul.

Mae`r diolch am lwyddiant y noson yn ddyledus i raddau helaeth iawn i`r tîm o wirfoddolwyr bu`n llafurio`n ddyfal iawn yn gweinyddu`r cystadlaethau, ac yn cofnodi`r canlyniadau.

[Diolch i Nigel Davies Cydlynydd Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin.]

Wednesday, July 02, 2008

BWRLWM BRO

Yn ystod yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd chwe sesiwn Bwrlwm Bro ar draws dalgylch Gogledd Myrddin. Trefnwyd sesiynau yn Llandeilo, Pontargothi, Llangadog, Rhydaman, Tymbl a Llanymddyfri. Prif bwrpas y sesiynau hyn oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd. Bu`r fenter yn llwyddiant ysgubol wrth i Ysgolion Sul y gwahanol ardaloedd ymuno fel un teulu dedwydd mewn dathliad o`r ffydd Gristnogol.

Arweiniwyd sesiynau Bwrlwm Bro gan Nigel Davies, Swyddog Plant ac Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Y thema ganolog oedd y berthynas glos sy`n bodoli rhwng bugail a defaid. Cyflwynwyd yr hanesion am y ddafad a aeth ar goll ac am y bugail da a roddodd ei fywyd dros y defaid gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu gan gynnwys PowerPoint, gemau, dvd a chwis. Heriwyd y plant i ymddiried eu gofal yn llwyr yn Iesu y bugail da, yr hwn a ddaeth i geisio ac i gadw'r rhai sydd ar goll.

Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau`n fawr y profiad o gael uno gyda`i gilydd – o gefn gwlad ac o`r dref, yn grwpiau bach ac yn rai mwy niferus – mewn dathliad o`r ffydd. Bu`r trefniant yn Fwrlwm Bro go iawn.

Monday, June 30, 2008

Lluniau Trip yr Ysgol Sul

Rhagor o luniau









Sunday, June 29, 2008

Trip yr Ysgol Sul

Dydd Sadwrn 28 Mehefin aeth llond bws o aelodau a ffrindiau i Ddinbych y Pysgod. Roedd y tywydd yn ffafriol yn y bore ac erbyn y prynhawn roedd yr haul yn tywynu’n braf. Aeth y bobl ifanc yn syth am y traeth ar ôl cyrraedd. Aeth nifer am gwpanaid o de ac hyd yn oed “bacon roll” cyn mynd am y tywod.
Hyfryd oedd cael eistedd mewn cylch mawr o “ddeck chairs” ar y traeth, chwarae gemau rownderi a criced, a rhannu sgwrs melys gyda chyfeillion. Manteisiodd nifer ar y cyfle i fynd o amgylch y siopau, eraill i gael cinio o bysgod a sglodion, tra arhosodd nifer ar y traeth trwy’r dydd.


Eisteddem ar y tywod twym
Yn yfed y glesni,
Bryan Martyn Davies

Sunday, June 22, 2008

Trip Drws Agored

Mae cymdeithas Drws Agored yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae cyfeillion yn dod i Neuadd Gellimanwydd bob dydd Iau ar gyfer paned, sgwrs a myfyrdod. Mae llawer yn edrych ymlaen at y cyfle i ddod i gymdeithasu.
I orffen tymor eleni aeth nifer ar y trip i Sir Benfro. Roedd y daith yn cynnwys ymweld a Clunderwen, Efail Wen ac yna i Llandudoch.
Yn Llandudoch gwelwyd olion yr Abaty ac Eglwys Blwyfol St Thomas. Cafodd yr Abaty ei sefydlu tua 1115 ar gyfer Priordy a 12 mynach o'r drefn Tiron ond mae'r olion ar y safle yn mynd yn ol i'r 6ed ganrif.
Mae tri charreg hynafol yn cael eu harddangos yn yr eglwys. Yr un mwyaf enwog, a'r cynharaf o ran oedran yw'r -Sagranus stone, gyda'r ysgrif mewn hen ysgrif ogam: SAGRAGNI MAQI CUNATAMI, ac mewn Lladin: SAGRANI FILI/CVNOTAMI, sy'n golygu - Carreg Sagranus, mab Cunotamus. Mae'r garreg hon yn deillio or 5ed neu yn gynnar yn y 6ed ganrif.