Friday, March 02, 2007

Drws Agored


Mae Drws Agored yn mynd o nerth i nerth pob dydd Iau. Unwaith eto mae ffrindiau Drws Agored wedi bod yn ddiwyd yn cyfrannu'n hael tuag at elusennau lleol. Yn ddiweddar cyflwynnodd Ken a Marryl Bradley rodd o £50 i fad achub Dinbych y Pysgod.
Yn y llun gwelir Ken a Marryl yn cyflwyno'r rhodd i Mr Fred Broomhead (Rheolwr Bad Achub, Dinbych y Pysgod).

Wednesday, February 28, 2007

Swper Gwyl Ddewi

Nos Fercher, 28 Chwefror dan nawdd Y Gymdeithas cynhaliwyd Swper Gwyl Ddewi a Ffug Eisteddfod. Braf oedd gweld cymaint wedi dod i'r noson. Yn ol yr arfer roedd y byrddau wedi eu harddurno'n hardd gyda tusw o Genin Pedr ar bob un.

I ddecrhau'r noson cawsom Gawl hyfryd gyda bara menyn a caws. Yna Bara brith a pice-ar-y-maen.

Wedi'r bwyd dechreuwyd ar y cystadlu. Roedd nifer wedi ymgeisio ar y limerig a chafwyd sawl ymgais arbenig. Testun y frawddeg oedd



GELLIMANWYDD ac eto roedd y cystadlu o'r
ansawdd flaenaf.
Yr her adroddiad oedd Salm 23 a'r her unawd oedd Sosban Fach. I gloi'r noson cawsom gystadleuaeth y partion.


Llywydd y Noson oedd ein gweinidog y Parchg Dyfrig Rees
Cawsom i gyd noson hyfryd yn llawn hwyl a sbri yng nghwmni'n gilydd yn dathlu Noson ein nawdd sant drwy gyfrwng Brethyn Cartref.

Cwrdd Teuluol - Dydd Gwyl Dewi

Bore Sul Chwefror 26 cynhaliwyd oedfa deuluol. Thema'r oedfa oedd y teulu a'r Beibl.
Roedd pawb wedi dysgu eu gwaith yn dyrlwyr a cawsom ein harwain gan y plant mewn gweddiau, adroddiadau, darlleniadau, deialog, cyflwyniad powerpoint a chan.
Gweddiwn
Deuwn atat ti O Dduw i ofyn i ti am dy gwmni. Diolchwn i ti am bob rhodd a ddaw o’th law. Diolchwn am Dewi Sant ac am y ffaith ein bod i gyd wedi mynychu oedfa deuluol oherwydd UN teulu ydym yn dy enw di. Diolch i ti am y Beibl, dy air di. Diolch am y rhai a’i hysgrifennodd ac am y rhai a’i cyfieithodd i Gymraeg, er mwyn i ni ei ddeall.
Amen

Sunday, January 28, 2007

SUL ADDYSG

Roedd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi dynodi dydd Sul Ionawr 28 yn Sul Addysg.

Yn oedfa'r bore cawsom ddarlleniadau gan Nia Mair a Hanna Wyn, anerchiad byr gan Edwyn Williams am addysg yng Nghymru heddiw. Yna bregeth ar y thema Addysg gan ein gweinidog Y Parch Dyfrig Rees. Mrs Gwenfwyn Kale oedd yn ein harwain mewn gweddi.Hyn oll drwy gefnogaeth dechnoleg fodern y taflunydd digidol. Mrs Gloria Lloyd a Mr Cyril Wilkins oedd wrth yr organ. Yn wir roedd yn fendith bod yno.

"Car di yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon ac a'th holl enaid ac a'th holl nerth." - Deutronomium 6:5

Sunday, December 31, 2006

Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes

Bore Sul 24 Rhagfyr daeth aeolodau a ffrindiau o Moreia i Eglwys Gellimanwydd ar gyfer oedfa Nadolig ar y cyd. Cawsom wasanaeth hyfryd wedi ei drefnu gan ein Gewinidog y Parchg Dyfrig Rees. Roedd nifer o eitemau wedi eu paratoi gan aelodau'r ddwy eglwys gan gynnwys darlleniadau, gweddiau a pedwar Cor, cor Moreia, cor merched, cor dynion a chor cymysg Gellimanwydd. Wedi'r oedfa cawsom gwmni ein gilydd yn Neuadd Gellimanwydd i rannu cwpaned o de a mins pei.

Yna ar fore Sul olaf y flwyddyn, sef Rhagfyr 31 cawsom oedfa ar y cyd ym Moreia, Tycroes. Cwrdd agored oedd hwn gyda nifer o aelodau wedi paratoi eitemau ac yn dod ymlaen i gymryd rhan yn yr oedfa drwy addoli Duw drwy ddarlleniadau, adroddiadau, myfyrdodau a chan. Yn wir roedd yn fendith i fod yn bresennol. Unwaith eto wedi'r oedfa manteiswyd ar y cyfle i gymdeithasu yn festri Moreia drwy rannu cwpaned o de wedi ei baratoi gan chwiorydd Moreia.
Yn y llun gwelir rhai o chwiorydd Moreia yn gweini'r te.