Monday, December 18, 2006

Parti Nadolig

Nos Lun 18 Rhagfyr yn Neuadd Gellimanwydd cawsom barti Nadolig yr Ysgol Sul. I ddechrau cawsom hwyl a sbri yn chwarae gemau amrywiol. Yna y bwyd - sglodion a selsig neu chicken nuggets a chips oedd y dewis eleni - a SOS COCH wrth gwrs.
Wedi'r bwyta a'r chwarae daeth Sion Corn i longyfarch y plant am eu gwaith trwy'r flwyddyn ac i gyflwyno anrheg i bob un ohonynt.
Hoffai athrawon yr Ysgol Sul ddiolch i bawb am eu ffyddlondeb yn ystod y flwyddyn ac edrychwn ymlaen am dymor llwyddiannus arall yng nghwmni ein gilydd.

"Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch a'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn" Luc 18:16

Pasiant y Plant

Nos Sul 17 Rhagfyr, 2006 cawsom ein swyno gan Basiant Nadolig plant yr Ysgol Sul. Roedd y Neuadd dan ei sang a hyfryd oedd bod yno. "Ble mae Iesu" oedd teitl y ddrama eleni. Roedd yn dechrau gyda Mair a Joseff yn dychwelyd o ddathliad y Pasg yn Jerwsalem. Yna roedd rhaid mynd yn ol i chwilio am Iesu. Cawsom hyd iddo yn y Deml yn trafod gyda'r oedolion. Wedyn dyma Mair yn ein hatgoffa o'i eni mewn stabal a chawsom ddrama'r geni gyda'r doethion, y bugeiliaid a'r angylion yn ein tywys tuag at y crud bendigaid.
"Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy'n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â'r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
henffych eni Ceidwad dyn!"

Sunday, December 03, 2006

DATHLU'R NADOLIG


Ar Nos Sul Rhagfyr 17 yn Neuadd Gellimanwydd bydd plant ac Ieuenctid yr Ysgol Sul yn cyflwyno eu Pasiant Nadolig “Ble mae Iesu?” Y parchg Dyfrig Rees sydd wedi paratoi’r sgript eleni ac y mae e ynghyd a Miss Ruth Bevan ac athrawon eraill yr Ysgol Sul wedi bod yn paratoi’r plant ar gyfer y pasiant. Mae’r plant wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ers tro ac yn edrych ymlaen i gyflwyno eu gwasanaeth ar ffurf drama,darlleniadau a chân. Yn y llun gwelir rhai o’r plant yn ystod ymarfer yn y Neuadd.
Yna ar fore Sul 24 Rhagfyr byddwn yn uno gyda aelodau Moreia yng Ngellimanwydd i gynnal Oedfa’r nadolig ar y cyd. Bore Dydd Nadolig bydd Y Parchg Dyfrig Rees yn gweinyddu oedfa Gymun am 8.30

“ganwyd i chi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd;" Luc 2:11

Friday, December 01, 2006

Lesotho

Ar Nos Fercher 27 Tachwedd, Mr Gareth Rees, Pontyberem oedd gŵr gwadd Y Gymdeithas. Mae Mr Rees yn Bennaeth Ysgol Y Tymbl ac yn frawd i’n Gweinidog Y parchg Dyfrig Rees. Cawsom noson hynod ddiddorol a difyr yn ei gwmni yn adrodd hanes ei ymweliad â Lesotho. Roedd Gareth wedi ymweld ag ysgol yng nghanol y wlad. Mynd o dan adain Dolen Cymru, sef y mudiad sy’n gyfrifol am gefeillio Cymru a Lesotho, oedd Mr Rees.

Sunday, November 12, 2006

CYFARFODYDD PREGETHU

Dydd Sul, 12 Tachwedd, cawsom y fraint o groesawu'r Parch Wilbur Lloyd Roberts, Pentrefelin, Llandeilo i'n cyfarfodydd pregethu.
Yn ystod y bore a hithau yn Sul y Cofio cawsom ein atgoffa bod Iesu yn

"Lladd gelyniaeth nid gelynion" ac mai trwyddo ef y cawn wir heddwch yn y byd.
"Boed ysbryd gwell rhwng gwlad a gwlad
heb ryfel, dig na chas,
a phlyged holl arweinwyr byd
i'w dderbyn ef a'i ras,
i'w dderbyn ef a'i ras,
i'w dderbyn, i'w dderbyn ef a'i ras."
Yn oedfa'r hwyr cawsom y pleser o groesawu cyfeillion o eglwys y Gwynfryn atom . Cafodd pawb oedd yn bresennol fendith o fod yn yr oedfaon.