Monday, January 23, 2017

Martin Luther

Bore Dydd Sul 22 Ionawr gwnaeth ein Gweinidog Y Parchg Ryan Thomas gyflwyno hanes Martin Luther i’r plant. Mae yna 500 mlynedd ers i Martin Luther hoelio ei 95 pwynt ar ddrws yr Eglwys Gatholig yn Wittenberg, Yr Almaen. Digwyddodd hyn ar 31 Hydref 1517.

Dyma’r digwyddiad sydd yn cael ei ystyried i fod y sbardun ar gyfer dechrau "Y Diwygiad" gan roi rhyddid i bawb addoli Duw fel mae’n dweud yn y Beibl, ac nid fel roedd yn cael ei bennu gan hierarchaeth eglwysig. Dyma drobwynt mawr yn hanes Ewrop ac i ddathlu wnaeth Y Parchg Ryan Thomas gyflwyno cymeriad "Playmobil" o Martin Luther i blant yr Ysgol Sul.

Yn ystod y flwyddyn bydd pob un o’r plant yn mynd a’r cymeriad adref yn eu tro i ddathlu achlysur mawr Martin Luther, un wnaeth newid hanes crefydd yn Ewrop.


Bydd hanes ein Martin Luther ni yn ymddangos ar dudalen Facebook Gellimanwydd – ewch i weld.
https://www.facebook.com/Gellimanwydd



No comments: