Saturday, April 30, 2016

DRWS AGORED - BRECWAST MAWR

Fel y gwelwch o'r eitem blaenorol mae criw Drws Agored yn cwrdd yn wythnosol am baned, clonc a myfyrdod byr yn Neuadd Gellimanwydd. Nid oes tâl mynediad ond mae nifer yn rhoi cyfraniad am eu lluniaeth ac fel canlyniad rydym yn ystod y pymtheg mlynedd olaf wedi cyfrannu dros deg mil o bunnoedd tuag at achosion elusennol fel Ambiwlans Awyr Cymru, Marie Curie, Ffrindiau Ysbyty Dyffryn Aman, Mudiadau Cancr a Strôc lleol, Cymorth Cristnogol ac ati.


Beth am droi mewn atom ar fore Iau yn Neuadd Gellimanwydd rhwng 10.00 a 11.30 o’r gloch. Cewch groeso mawr. Y llynedd cafwyd Bore Coffi arbennig tuag yr elusen Macmillan ac fe godwyd dros £700. 

Eleni byddwn yn cynnal Brecwast Mawr Drws Agored fore Iau, Mai 19 i godi arian i Cymorth Cristnogol. Felly os am frecwast da galwch mewn rhwng 7.30 a 11.30 o’r gloch.


Dewch atom am glonc a chefnogi elusen teilwng yr un pryd. Cewch groeso mawr. 

No comments: