Monday, December 24, 2012

GWASANAETHAU NADOLIG

 
Roedd Dydd Sul 23 Rhagfyr yn ddiwrnod o ddathlu y Nadolig yng Ngellimanwydd. I ddechrau aethom i Moreia, Tycroes, ein chwaer eglwys ar gyfer Gwasnaeth Boreol y Nadolig.
Roedd yna naws hyfryd gyda'r capel yn llawn. Aelodau Moreia oedd yn arwain yr oedfa a cawsom ddarlleniadau, gweddiau ac adroddiad.
Hefyd cawsom eitemau gan corau merched, dynion a chor Capel Gellimanwydd, dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd, gyda Mr Cyril Wilkins yn cyfeilio. 
Anerchwyd fyfyrdod pwrpasol iawn gan gweinidog y ddwy eglwys, sef Y Parchg Dyfrig Rees. Drwy ddull lluniau ar y sgrin dangosodd i ni sut gall y ddynoliaeth edrych os ydym yn dilyn bod bodau dynol o werth anfeidrol, ac eu bod wedi’u creu ar ddelwedd Duw.
 
Wedi'r oedfa yn ol yr arfer aethom i'r festri i rannu cwpanaid o de a bisgedi a chymdeithasu gyda chyfeillion.
Roedd yn ddechrau hyfryd i'n dathliadau.
 

No comments: