Tuesday, March 02, 2010

BEDYDD

Ar Fore Sul 28 Chwefror bedyddwyd plant Elen ac Alun Rees, sef Gwenan Mai a Tomos Glyn. Braf oedd gweld y capel yn gyffyrddus lawn i ddathlu a thystio bedyddio’r ddau fach.

Mae bedydd yn cyhoeddi fod Iesu wedi marw drosom ac ei fod wedi gwneud hynny cyn i ni gael ein geni. Mae Duw yn ein caru ni.
"Yn wir rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Duw yn null plentyn, nid รข byth i mewn iddi.” Luc 18:17

No comments: