Mr Norman Richards, Llywydd Pwyllgor yr Ofalaeth ynghyd a'r Parchg Dyfrig Rees a Mrs Mandy Rees a'u meibion, Rhodri a RheinalltAr Sul hyfryd a heulog o Fedi daeth aelodau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i ddathlu 25 mlynedd y Parchg Dyfrig Rees yn y weinidogaeth.
Felly roedd Oedfa Foreol Sul 20 Medi 2009 yn un arbennig iawn yng Ngellimanwydd. Nid yn unig oedd ein ffrindiau o 'n chwaer eglwys Moreia Tycroes yn ymuno a ni ar gyfer oedfa ar y cyd ond hefyd roedd yn gyfle i'r ddwy eglwys ddiolch i'r Parchg Dyfrig Rees am 25 mlynedd o wasanaeth fel gweinidog yr Efengyl.
Braf oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer yr achlysur. Cawsom oedfa fendthiol gan ein Gweinidog.
Cafodd Mr Rees ei ordeinio yn Llanbrynmair ac yna wedi sawl blwyddyn gadawodd mwynder Maldwyn am Gwm Gwendraeth, bro ei febyd, cyn dod atom ni i'r ofalaeth hon bron i ddeng mlynedd yn ol. Mae yn uchel iawn ei barch ym mysg yr aelodau a'i gydnabod, yn bregethwr huawdl a graenus ac yn fugail ffyddlon.
