Thursday, November 24, 2016

Cymdeithas Gellimanwydd yn dathlu'r Nadolig

Nos Iau 24 Tachwedd roedd Cymdeithas Gellimanwydd yn dathlu y Nadolig. 
Berthyn Cartref oeddd gennym. Cawsom eitem gan Gor o ferched dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd gyda Rhys Thomas yn cyfeilio. Wedyn adroddiad gan Miss Ruth Bevan. Yna cawsom noson o ganu carolau cyn rhannu te a mins pei. 


Roedd yn gychwyn da i dymor y Nadolig a diolch i bawb wnaeth gymryd rhan boed yn ganu, adrodd neu paratoi y te a’r bwyd. Diolchodd y Parchg Ryan Thomas i bawb am noson hyfryd a rhoddodd her i ni gyd i  wisgo’n lliwgar ar gyfer dathlu’r Nadolig gan gynnwys siwmperi Nadoligaidd.
Cor Merched

Gloria Lloyd a Ruth Bevan

Mwynhau Mins pei

Tuesday, October 11, 2016

TAITH GERDDED CYMORTH CRISTNOGOL

Ar fore Sadwrn Medi 17eg fe gyfarfu grwp ohonom ni gefnogwyr Cymorth Cristnol o bob enwad yn Rhydaman ar gyfer ein taith gerdded flynyddol. Diolch i Ann Jewell yr ysgrifenyddes ddiwyd am drefnu’r cyfan ac i Mr Arnallt James am arwain y daith ddiddorol iawn o amgylch yr ardal lle’i ganwyd a’i magwyd. Taith ddiddorol dros ben oedd hi hefyd ac roedden ni nol yn y festri cyn cinio yn yfed dished ac yn bwyta’n harti o’r teisennau a’r bisgedi siocled oedd wedi eu gosod allan ar ein cyfer gan wragedd caredig Capel Newydd. Bore hyfryd yn wir o addysg a gwneud daioni i’n ffrindiau mewn angen ledled y byd. 
Mae diolchiadau Gellimanwydd yn mynd yn arbennig i Rowena Fowler, Sian Thomas a Linda Williams am drefnu a chasglu ar ein rhan . Llwyddodd y dair i godi £320

Monday, September 26, 2016

BORE COFFI MACMILLAN

Bore Dydd Iau Medi 29 
yn Neuadd Gellimanwydd cynhelir 
Bore Coffi Macmillan 
rhwng 10 a 12. 

Ni fydd tal mynediad ond gwerthfawrogir cyfraniadau tuag at yr elusen haeddiannol hon. 

Tuesday, September 13, 2016

Llwyddiant

Yn ystod ein Gwasanaeth bore Dydd Sul 11 Medi cafodd cynulleidfa Capel Gellimanwydd gyfle i ddymuno yn dda i ddwy o blant yr Ysgol Sul sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y Brifysgol. Mae Mari Llywelyn yn mynd i Caerdydd i astudio Deintyddiaeth ac Elan Daniels i Caergrawnt i astudio Milfeddygaeth.


Yn y llun mae ein Gweinidog y Parchg Ryan Thomas yn cyflwyno rhodd fechan i’r ddwy.

Thursday, July 28, 2016

Suliau Awst

Mae'n arferiad ers sawl blwyddyn bellach i Eglwysi Rhyddion y dref i ddod at ein gilyddd yn ystod Mis Awst. 

Dyma'r manylion Suliau Mis Awst eto. Felly, mae'r trefniadau fel a ganlyn - 

  •   Awst 14 yn Gellimanwydd am 10.30am o dan ofal Mr Brian Owen;
  •   Awst 21 yn Ebeneser am 10.30am o dan ofal y Parchedig Carl Williams;
  •   Awst 28 yn y Gwynfryn o dan ofal y Parchedig John Gwilym Jones.