Monday, September 26, 2016

BORE COFFI MACMILLAN

Bore Dydd Iau Medi 29 
yn Neuadd Gellimanwydd cynhelir 
Bore Coffi Macmillan 
rhwng 10 a 12. 

Ni fydd tal mynediad ond gwerthfawrogir cyfraniadau tuag at yr elusen haeddiannol hon. 

Tuesday, September 13, 2016

Llwyddiant

Yn ystod ein Gwasanaeth bore Dydd Sul 11 Medi cafodd cynulleidfa Capel Gellimanwydd gyfle i ddymuno yn dda i ddwy o blant yr Ysgol Sul sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y Brifysgol. Mae Mari Llywelyn yn mynd i Caerdydd i astudio Deintyddiaeth ac Elan Daniels i Caergrawnt i astudio Milfeddygaeth.


Yn y llun mae ein Gweinidog y Parchg Ryan Thomas yn cyflwyno rhodd fechan i’r ddwy.

Thursday, July 28, 2016

Suliau Awst

Mae'n arferiad ers sawl blwyddyn bellach i Eglwysi Rhyddion y dref i ddod at ein gilyddd yn ystod Mis Awst. 

Dyma'r manylion Suliau Mis Awst eto. Felly, mae'r trefniadau fel a ganlyn - 

  •   Awst 14 yn Gellimanwydd am 10.30am o dan ofal Mr Brian Owen;
  •   Awst 21 yn Ebeneser am 10.30am o dan ofal y Parchedig Carl Williams;
  •   Awst 28 yn y Gwynfryn o dan ofal y Parchedig John Gwilym Jones.

Sunday, July 17, 2016

Drws Agored


Cynhaliwyd Cinio Blynyddol Drws Agored eleni yng ngwesty Y Red Lion, Llandybie. Yn ol ein harfer cawsom amser arbennig yng ngwhwmni ein gilydd yn cymdeithasu.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu a chefnogi yn ystod y tymor. 

Friday, June 24, 2016

Gwibdaith I Ddolwar Fach






Ar ddydd Sadwrn  18 Mehefin aeth gwibdaith o Rydaman I Ddolwar Fach, cartref Ann Griffiths. Galwyd yn  Llanfihangel yng Ngwynfa, i weld yr Eglwys lle cafodd Ann ei bedyddio. Yno cafwyd cyfle i ganu un o'i  hemynau  ' Wele'n sefyll wrth y myrtwydd'. 
Ar y ffordd adref cawsom wledd o fwyd yn Llety’r Parc Aberystwyth. Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn a mae'n diolch yn mynd i’r Parch Emyr Gwyn Evans, y Parch John Talfryn Jones a Mr brianOwen am yr holl drefniadau. 

Mae'r lluniau o flaen Dolwar Fach ac yn yr eglwys.