Friday, June 24, 2016

Gwibdaith I Ddolwar Fach






Ar ddydd Sadwrn  18 Mehefin aeth gwibdaith o Rydaman I Ddolwar Fach, cartref Ann Griffiths. Galwyd yn  Llanfihangel yng Ngwynfa, i weld yr Eglwys lle cafodd Ann ei bedyddio. Yno cafwyd cyfle i ganu un o'i  hemynau  ' Wele'n sefyll wrth y myrtwydd'. 
Ar y ffordd adref cawsom wledd o fwyd yn Llety’r Parc Aberystwyth. Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn a mae'n diolch yn mynd i’r Parch Emyr Gwyn Evans, y Parch John Talfryn Jones a Mr brianOwen am yr holl drefniadau. 

Mae'r lluniau o flaen Dolwar Fach ac yn yr eglwys.

Saturday, May 21, 2016

Bwrlwm Bro


Ar Ddydd Sul Mai 15fed cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul Dyffryn Aman a’r cylch yn Neuadd Gellimanwydd o dan drefniant Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.). Bu’r plant yn mwynhau dros awr o weithgareddau o gwmpas yr hanes am Iesu’n iachau’r claf o’r parlys. Cyflwynwyd y neges trwy chwarae gêm, stori a chrefft. Cafwyd hwyl a sbri, a chyfle i ddysgu bod gan Iesu'r awdurdod nid yn unig i iachau ond hefyd i faddau beiau.