Sunday, March 27, 2016
Wednesday, March 23, 2016
Cymanfa Ganu
Cynhaliwyd
Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a’r Cylch ar ddydd Sul y Blodau, 20 Mawrth yng
Nghapel Gellimanwydd. Yr arweinydd oedd Mrs Helen Gibbon, Capel Dewi. Mae Helen
sy’n hannu o Langynnwr yn soprano adnabyddus iawn ac yn ennillydd cyson yn yr
Eisteddfod Genedlaethol. Yr organyddes oedd Mrs Gloria Lloyd.
Cawsom ddwy
oedfa. Yn y bore cyfle y plant oedd hi a braf oedd cael bod yno yn gweld a
gwrando arnynt yn canu mor hyfryd.
Sunday, February 28, 2016
GWASANAETH GWYL DEWI
Hyfryd oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer ein Gwasanaeth Gwyl Dewi ar fore Sul 28 Chwefror.
Catrin a Macy oedd yn cymryd y rhannau agoriadol ac yna wnaeth Destiny, Efa Haf a Cadi roi'r emyn gyntaf allan. Wedi darlleniad a gweddi cyhoeddodd Elen, Marged a Gwenno yr ail emyn . Yna cawsom eitemau hyfryd gan y plant, gan gynnwys cyd adrodd, darlleniadau a chanu nifer o ganeuon. Cawsom air gan y Gweinidog ar thema Cacen Simnell a'r deuddeg Disgybl. Yna dosbarhtodd wy pasg i bob plentyn. Hyfry doedd gwled cymaint o nlant yn cyrmyd rhan a dosbarthodd Y Parch Ryan Thomas 38 wy pasg i gyd!
I gloi'r oedfa cyflwynodd Gwenan a Mali yr emyn olaf.
Diolch i Mrs Gloria Lloyd am ganu'r organ ac yn enwedig i'r mamau yr Ysgol Sul am hyfforddi'r plant.
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i rannu cwpanaid o de a bisgedi yn y Neuadd.
Thursday, January 28, 2016
Cymdeithas Gellimanwydd
Ar nos Iau 28 Ionawr daeth Adran Ieuenctid Seindorf Arian
Rhydaman i Gymdeithas Gellimanwydd i roi Cyngerdd i ni. Cawsom wledd o adloniant dan
arweiniad medrus Mr Glyn Jones, Arweinydd y band. Hyfryd oedd gweld ein talentau lleol yn cael eu meithrin ac mae nifer ohonynt yn datblygu a symud i fod yn aelodau o’r band llawn. Diolch i holl aelodau’r band am noson arbennig.
Yn ystod y noson cawsom
amrywiaeth o gerddoriaeth gan gynnwys unawd
“Danny Boy” ar y cornet gan Dylan Savage, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd
Llandybie ac unawd “James Bond” gan Carys Williams ar y Tenor Horn. Mae Carys
hefyd yn mynd i Ysgol Llandybie.
Wedi'r Cyngerdd cawsom gwpanaid o de a bisgedi a chyfle i gymdeithasu. Roedd yn wir
bleser cael bod yn y gynulleidfa.
Subscribe to:
Posts (Atom)


