Thursday, May 20, 2010

GWASANAETH TEULUOL - MIS MAI


Cynhaliwyd Gwasanaeth teuluol yn ystod oedfa boreol Sul 16 Mai dan arweiniad Edwyn Williams.
Ffydd oedd thema'r oedfa gyda Ffydd Abraham yn ganolog i'r gwasanaeth. Hefyd cawsom hanes Robert Jermain Thomas o Lanofer a aeth a Beiblau i wlad Korea. Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi.

Ffydd ydy’r sicrwydd fod beth dyn ni’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae’n dystiolaeth sicr o realiti beth dyn ni ddim eto’n ei weld.

BEDYDD THOMAS RHYS CLAYTON


Yn ystod Gwasanaeth teuluol bore 16 Mai bedyddwyd Thomas Rhys Clayton mab Lowri. 
Braf oedd  gweld y capel yn gyffyrddus lawn i ddathlu a thystio bedyddio Rhys bach. Dymunwn, fel eglwys, pob llwyddiant ac hapusrwydd iddo i'r dyfodol.



"Yn wir rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Duw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” Luc 18:17

Sunday, April 04, 2010

DERBYN AELODAU NEWYDD

Bore Dydd Sul Y Pasg, 4 Ebrill, cawsom oedfa arbennig yn Neuadd Gellimanwydd. Roedd Nia Mair Jeffers a Hanna Williams yn cael eu derbyn yn llawn aelodau yn yr eglwys.
Hyfryd oedd gweld y neuadd yn llawn (yn wir roedd angen mynd i nol rhagor o gadeiriau). Hyfryd hefyd oedd gweld trawstoriad oedran y gynulleidfa, roedd yno bobl o bob oed.
Cawsom bregeth bwrpasol, egniol gan ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees ac yna cafodd Nia a Hanna eu derbyn yn aelodau o’r eglwys. Wedi hyn cawsom ein harwain at fwrdd y Cymun i gofio am aberth drud Iesu, ond hefyd y neges o lawennydd bod Duw wedi trechu angau ei hun.

“Ond cyfododd Duw ef, gan ei rhyddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael.” – Actau 2:24


Heddiw cododd Crist yn fyw,
Halelwia!”

Sunday, March 28, 2010

Cymanfa Ganu undebol Rhydaman a’r Cylch

Dydd Sul y Blodau, Mawrth 28ain 2010 cynhaliwyd y Gymanfa Ganu Undebol yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd i gymryd rhan yn y Gymanfa.
Yr Arweinydd oedd Mrs Helen Wyn, Brynaman. Mae Mrs Wyn yn adnabyddus fel arweinydd, yn gyn athrawes gerdd a bellach yn cynorthwyo gyda Cwmni Opera Ieuenctid Caerfyrdidn a Chôr Brynaman.
Mrs Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio
Caersalem oedd yn llywyddu yn ystod oedfa’r bore, sef Gymanfa’r Plant a Gellimanwydd yn yr hwyr yn ystod Gymanfa’r oedolion.
Cawsom Gymanfa gwerth ei dathlu yng nghwmni Helen Wyn a oedd yn cael y gorau allan o'r plant a'r oedolion.

Thursday, March 25, 2010

BEDYDDIO GWENAN A TOMOS REES


Ar Fore Sul 28 Chwefror bedyddwyd plant Elen ac Alun Rees, sef Gwenan Mai a Tomos Glyn. Braf oedd gweld y capel yn gyffyrddus lawn i ddathlu a thystio bedyddio’r ddau fach. Dymunwn, fel eglwys, pob llwyddiant ac hapusrwydd i Gwenan a Tomos i'r dyfodol.

"Yn wir rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Duw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” Luc 18:17