Sunday, May 14, 2006

CWRDD TEULUOL

Guto Llywelyn oedd yn gyfrifol am oedfa deuluol Mis Mai ac “Ewyllys Da” oedd sail y gwasanaeth.Yn ystod yr oedfa daeth y plant i sefyll o dan ymbarel fel arwydd ein bod i gyd yn ran o UN TEULU MAWR gyda’n tad yr Arglwydd Dduw yn gwylio drosom i gyd. Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd drwy rannu cwpaned o de a chinio bara a banana, fel rhan o weithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol.
Trefnwyd Oedfa Deuluol Mis Chwefror ar thema “Gwyl Ddewi” gan Edwyn Williams. Bethan Thomas fydd yn gyfrifol am wasanaeth Mehefin a’r teitl fydd “Adeiladu” ac yna fe fydd Ruth Bevan yn gyfrifol am Oedfa Ddiolchgarwch y plant ar Hydref 15.
Dewch i’n cefnogi gan mai’r plant yw dyfodol ein heglwys.

Y pethau bychain hynny a welsom ganddo ef
O dyro ras i'w dysgu yn awr er Teyrnas Nef.

LLYWYDD YR UNDEB

Mae’r parch Dewi Myrddin Hughes, cyn weinidog Gellimanwydd, wedi ei enwi fel Daprar Lywydd yr Undeb gan y Cyfundebau. Bydd Mr Hughes yn cael ei ethol yn y Gynhadledd yn Llanbed. Mae'r Parch Dewi Myrddin a'i briod Annette Hughes yn aelodau ffyddlon a gweithgar yng Ngellimanwydd.
Llongyfarchiadau mawr iddo.

CYMDEITHAS GELLIMANWYDD 2005-06

Ni allaf gredu bod fy nhymor cyntaf fel ysgrifennydd y Gymdeithas wedi gorffen, ac rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi ei chefnogi a bod mor barod i gymryd rhan.
Dechreueodd y tymor ym mis Medi 2005 gyda thrip blynyddol. Aethom ar daith i Sir Benfro, gan fwynhau y golygfeydd hudolus sy’n nodweddu’r arfordir arbennig.Bu cyfle i aros yn Hwlffordd ac Abergwaun a phererindota yn Nhy Ddewi.
Cafwyd nosweithiau difyrus, adeiladol ac addysgiadol drwy’r tymor. Glynog Davies yn difyrru noson y swper a chael ciplowg ar hiwmor gwreiddiol poblei filltir sgwar. Bu cyflwyniad Dafydd Evans o’r Gymdeithas Alzheimers, mis Hydref, yn fwysobreiddiol wrth iddo agor cil y drws i ddirgelwch y clefyd enbyd a brawychus sy’n taro cynifer. Eto, gwnaeth hynny yn ddiddorol ac heb godi ofn arnom a chyda mesur o ddoniolwch.
Mins-pei a charol wedyn. Y merched wedi arlwyo’n dda fel arfer a’r gweinidog yn rhoi cyflwyniad o hanes ysgrifennu a chyfansoddi y garol Tawel Nôs.Cafodd y cwis feistr, Edwyn gymorth Ivoreen gyda’r cwis. Bu’n noson hwyliog fel arfer gydag ambell un yn mynnu dangos ei anwybodaeth. Bu’r eira’n feistr arnom noson Gwyl Ddewi a siom fawr fu gorfod dileu’r swpera baratowyd. Bu sawl un yn bwyta cawl am ddiwrnodau mae’n debyg. Diolch i’r merched am baratoi ac i Aelwyd Penrhyd am fodloni dod atom eto yn y dyfodol.
Noson ola’r tymor, ddechrau Ebrill, daeth Cwmni Drama’r Fedwen, Saron, atom i gyflwyno’r gomedi, Corfw.
Mae bron a bod yn amser i drefnu rhaglen ar gyfer y tymor nesaf a gelwir pwyllgor yn fuan. Bydd angen awgrymiadau arnom ar gyfer trip, siaradwyr,nosweithiau a.y.y.b. A oes gennych awgrymiadau?
Cofiwch mae angen syniadauhen a newydd er mwyn sicrhau ffresni a chadw’r gymdeithas yn apelgar a diddorol.
Edrychwn ymlaen at raglen 2006-2007.
Mandy Rees.

Sunday, April 09, 2006

CYMANFA GANU SUL Y BLODAU

Mr Geraint Roberts, Prestatyn, yr Arweinydd a rhai o gynulleidfa'r bore.








Ar ddydd Sul 9 Ebrill, sef Sul y Blodau daeth capeli Rhydaman a'r cylch at eu gilydd i ddathlu ein Cymanfa Undebol. Roedd Gymanfa eleni yng Nghapel y Gwynfryn. Braf oedd gweld y capel yn llawn yn ystod y bore pan gawsom Gymanfa'r Plant. Roedd pob plentyn wedi dysgu ei waith ac yn perfformio'n arbennig.
Mr Geraint Roberts, Prestatyn oedd Arweinydd Gymanfa eleni, gyda Mrs Sally Arthur yn cyfeilio ar yr organ. Hefyd roedd band yn y sedd fawr yn cyfeilio ar gyfer yr emynau.
Mr Roberts yw arweinydd Cor Meibion Trelawnwyd, sef un o gorau meibion mwya Gogledd Cymru. Cafodd Mr Roberts hwyl arbennig yn annog y plant i ganu a chodi'r to. Yn wir roedd yn bleser bod yno i wrando ar y plant a'r oedolion yn canu'r emynau.

Sunday, April 02, 2006

CYMANFA GANU UNDEBOL


Cynhelir Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a'r Cylch, ddydd Sul y Blodau, 9 Ebrill, 2006 yng Nghapel y Gwynfryn.
Bydd aelodau Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia a Seion, Capel Newydd, Bethani a Gosen yn ymuno ar gyfer y Gymanfa eleni eto.

Yr Arweinydd fydd Mr Geraint Roberts, Prestatyn a'r Organyddes, Mrs Sally Arthur.

Dydd Sul 2 Ebrill, cafwyd dwy rihyrsal yn y Gwynfryn. Am 2 y prynhawn caswcom rihyrsal y plant. Yn y llun gwelir rhai o blant Ysgol Sul Gellimanwydd yn ymarfer ar gyfer yr eitem yng Nghymanfa'r plant.
Yna am 5.30 yr hwyr cynhaliwyd rihyrsal yr oedolion.