Wednesday, December 14, 2016
Thursday, November 24, 2016
Cymdeithas Gellimanwydd yn dathlu'r Nadolig
Nos Iau 24 Tachwedd
roedd Cymdeithas Gellimanwydd yn dathlu y Nadolig.
Berthyn Cartref oeddd
gennym. Cawsom eitem gan Gor o ferched dan arweiniad Mrs Gloria Lloyd gyda Rhys
Thomas yn cyfeilio. Wedyn adroddiad gan Miss Ruth Bevan. Yna cawsom noson o
ganu carolau cyn rhannu te a mins pei.
Roedd yn gychwyn da
i dymor y Nadolig a diolch i bawb wnaeth gymryd rhan boed yn ganu, adrodd neu
paratoi y te a’r bwyd. Diolchodd y Parchg Ryan Thomas i bawb am noson hyfryd a
rhoddodd her i ni gyd i wisgo’n lliwgar ar gyfer dathlu’r Nadolig gan gynnwys siwmperi
Nadoligaidd.
Cor Merched
Gloria Lloyd a Ruth Bevan
Mwynhau Mins pei
Tuesday, October 11, 2016
TAITH GERDDED CYMORTH CRISTNOGOL
Ar fore Sadwrn Medi 17eg fe gyfarfu grwp ohonom ni gefnogwyr Cymorth Cristnol o bob enwad yn Rhydaman ar gyfer ein taith gerdded flynyddol. Diolch i Ann Jewell yr ysgrifenyddes ddiwyd am drefnu’r cyfan ac i Mr Arnallt James am arwain y daith ddiddorol iawn o amgylch yr ardal lle’i ganwyd a’i magwyd. Taith ddiddorol dros ben oedd hi hefyd ac roedden ni nol yn y festri cyn cinio yn yfed dished ac yn bwyta’n harti o’r teisennau a’r bisgedi siocled oedd wedi eu gosod allan ar ein cyfer gan wragedd caredig Capel Newydd. Bore hyfryd yn wir o addysg a gwneud daioni i’n ffrindiau mewn angen ledled y byd.
Mae diolchiadau Gellimanwydd yn mynd yn arbennig i Rowena Fowler, Sian Thomas a Linda Williams am drefnu a chasglu ar ein rhan . Llwyddodd y dair i godi £320
Monday, September 26, 2016
BORE COFFI MACMILLAN
Bore Dydd Iau Medi 29
yn Neuadd Gellimanwydd cynhelir
Bore Coffi Macmillan
rhwng 10 a 12.
Ni fydd tal mynediad ond gwerthfawrogir cyfraniadau tuag at yr elusen haeddiannol hon.
Tuesday, September 13, 2016
Llwyddiant
Yn ystod ein Gwasanaeth bore
Dydd Sul 11 Medi cafodd cynulleidfa Capel Gellimanwydd gyfle i ddymuno
yn dda i ddwy o blant yr Ysgol Sul sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y
Brifysgol. Mae Mari Llywelyn yn mynd i Caerdydd i astudio Deintyddiaeth ac Elan
Daniels i Caergrawnt i astudio Milfeddygaeth.
Yn y llun mae ein Gweinidog
y Parchg Ryan Thomas yn cyflwyno rhodd fechan i’r ddwy.
Subscribe to:
Posts (Atom)






