Wednesday, March 23, 2016

Cymanfa Ganu


Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a’r Cylch ar ddydd Sul y Blodau, 20 Mawrth yng Nghapel Gellimanwydd. Yr arweinydd oedd Mrs Helen Gibbon, Capel Dewi. Mae Helen sy’n hannu o Langynnwr yn soprano adnabyddus iawn ac yn ennillydd cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr  organyddes oedd Mrs Gloria Lloyd.

Cawsom ddwy oedfa. Yn y bore cyfle y plant oedd hi a braf oedd cael bod yno yn gweld a gwrando arnynt yn canu mor hyfryd.

Yna yn y nos daeth aelodau a ffrindiau  capeli yr ardal ynghyd ar gyfer Gymanfa llwyddiannus dros ben 

Sunday, February 28, 2016

GWASANAETH GWYL DEWI




Hyfryd oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer ein Gwasanaeth Gwyl Dewi ar fore Sul 28 Chwefror.
Catrin a Macy oedd yn cymryd y rhannau agoriadol ac yna wnaeth Destiny, Efa Haf a Cadi roi'r emyn gyntaf allan. Wedi darlleniad a gweddi cyhoeddodd Elen, Marged a Gwenno yr ail emyn . Yna cawsom eitemau hyfryd gan y plant, gan gynnwys cyd adrodd, darlleniadau a chanu nifer o ganeuon. Cawsom air gan y Gweinidog ar thema Cacen Simnell a'r deuddeg Disgybl. Yna dosbarhtodd wy pasg i bob plentyn. Hyfry doedd gwled cymaint o nlant yn cyrmyd rhan a dosbarthodd Y Parch Ryan Thomas 38 wy pasg i gyd! 
I gloi'r oedfa cyflwynodd Gwenan a Mali yr emyn olaf. 
Diolch i Mrs Gloria Lloyd am ganu'r organ ac yn enwedig i'r mamau yr Ysgol Sul am hyfforddi'r plant. 
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i rannu cwpanaid o de a bisgedi yn y Neuadd.  

Thursday, January 28, 2016

Cymdeithas Gellimanwydd

Ar nos Iau 28 Ionawr daeth Adran Ieuenctid Seindorf Arian Rhydaman i Gymdeithas Gellimanwydd i roi Cyngerdd i ni.  Cawsom wledd o adloniant dan arweiniad medrus Mr Glyn Jones, Arweinydd y band. Hyfryd oedd gweld ein talentau lleol yn cael eu meithrin ac mae nifer ohonynt yn datblygu a symud i fod yn aelodau o’r band llawn. Diolch i holl aelodau’r band am noson arbennig.
Yn ystod y noson cawsom amrywiaeth o gerddoriaeth gan gynnwys unawd  “Danny Boy” ar y cornet gan Dylan Savage, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llandybie ac unawd “James Bond” gan Carys Williams ar y Tenor Horn. Mae Carys hefyd yn mynd i Ysgol Llandybie. 
 Wedi'r Cyngerdd cawsom gwpanaid o de a bisgedi a chyfle i gymdeithasu. Roedd yn wir bleser cael bod yn y gynulleidfa.