Sunday, July 05, 2015
Y PARCHGEDIG RYAN THOMAS YN DATHLU 25 MLYNEDD YN Y WEINIDOGAETH
Bore Dydd Sul 5 Orffennaf cawsom fel gofalaeth newydd gyfle i ddathlu'r ffaith bod ein Gweinidog wedi cyrraedd carreg filltir sef 25 mlynedd yn y Weinidogaeth.
Daethom ynghyd i Gapel Gellimanwydd i gyd addoli mewn Oedfa Gymun. Cawsom eitem gan blant yr Ysgol Sul. Cyflwynodd Dafydd Llewelyn a Catrin Brodrick rodd i'r Gweinidog ar ran yr Ofalaeth. Yna wedi'r Oedfa cawsom gyfle i ddathlu drwy gynnal parti penblwydd arbennig yn y Neuadd.
Roedd gwledd wedi ei pharatoi gan yr aelodau a chafodd bawb mwy na digon i fwyta. Wrth gwrs does dim un parti yn gyflawn heb gacen i ddathlu'r achlysur.
Hyfryd oedd gweld y Capel a'r Neuadd yn llawn ar gyfer diwrnod i'w gofio yn dathlu gyda Ryan.
Monday, May 25, 2015
CYFARFOD SEFYDLU Y PARCHEDIG RYAN ISAAC-THOMAS
Ar brynhawn Sadwrn 23 Mai, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu Y
Parchedig Ryan Isaac-Thomas yn Weinidog i Iesu Grist yn eglwysi Annibynnol
Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman a Moreia Tycroes.
Roedd y capel yn llawn gyda llu o gyfeillion wedi dod i
ymuno gyda aelodau’r dair yn y dathliadau, gan gynnwys cyfeillion o gyn eglwysi
Y Parchedig Ryan Thomas sef Jerusalem a Seion Porth Tywyn, Nasareth Pontiets a
Sardis, Trimsaran.
Y Parchedig Dyfrig Rees, Penybont ar Ogwr, oedd yn Llywyddu
a Mrs Gloria Lloyd oedd yr organnydd. Y
Parchedig Guto Llywelyn, Caerbryn roddodd yr alwad i addoli. Cawsom ddarlleniad
o’r Beibl gan Y Parchg Meirion Evans, Porth Tywyn ac yna Weddi gan Y Parchg
Dewi Myrddin Hughes, Clydach.
Roedd y Sefydlu yn ngofal y Llywydd
Cawsom hanes yr Alwad gan Mrs Bethan Thomas, Ysgrifennydd Pwyllgor
yr Ofalaeth, gan gynnwys hanes creu gofalaeth newydd rhwng y dair eglwys.
Y Parchg Derwyn Morris Jones draddododd yr urdd Weddi. Miss
Maureen King oedd yn cyflwyno ar ran eglwysi Jerusalem a Seion Porth Tywyn,
Nasareth Pontiets a Sardis, Trimsaran. Yna cafwyd air o groeso gan Mr Elfryn
Thomas, Llywydd pwyllgor yr Ofalaeth; Y Parchg Iwan Vaughan Evans, Llalnelli ar
ran Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog a’r Parchg John Talfryn Jones,
Rhydaman ar ran eglwysi’r cylch.
Y Parchg Emyr Gwyn Evans, Y Tymbl, Gweinidog presennol Y
Gwynfryn, oedd yn pregethu. Offrymwyd y fendith gan Y Parchg Ryan Thomas.
Wedi’r Oedfa cafodd bawb gyfle i barhau yn y dathlu drwy
ymyno yn Neuadd Gellimanwydd a rhannu yn y wledd oedd wedi ei pharatoi gan
aelodau’r ofalaeth.
4 GWEINIDOG
Dim yn aml mae capel yn cael cyfle i groesawu 4 gweinidog o’r
capel at ei gilydd. Ond dyna oedd braint Capel Gellimanwydd yn ystod Cyfarfod
Sefydlu y Parchedig Ryan Isaac-Thomas.
Roedd tri o gyn weinidogion y capel yn cymryd rhan yn oedfa
sefydlu y Parchg Ryan Thomas, sef Y Parchg Dyfrig Rees, Penybont ar Ogwr, y Parchg Derwyn Morris Jones, Abertawe a'r Parchg Dewi Myrddin Hughes, Clydach.
Thursday, May 14, 2015
Sunday, April 05, 2015
Dechrau Canu Dechrau Canmol
Ar Sul y Pasg, roedd rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dodo o Gapel Gellimanwydd, ac yn dathlu'r Atgyfodiad. Cawsom fwynhau perfformiadau gan yr unawdwyr Elgan Thomas a Gwawr Edwards a myfyrio ar ddigwyddiadau wythnos y Pasg trwy gyfrwng myfyrdodau, darlleniadau a monologau.
Hyfryd oedd gweld cymaint o'n haelodau a ffrindiau ar y teledu.
Subscribe to:
Posts (Atom)












