Thursday, July 08, 2010

Mabolgampau Dan Do

Nos Lun 5ed Gorffennaf cynhaliwyd Mabolgampau Dan Do ar gyfer ysgolion Sul a chlybiau ieuenctid Cristnogol Dwyrain Sir Gaerfyrddin yn Neuadd Chwaraeon Rhydaman.  Roedd y cystadleuthau wedi eu rhannu i ddau oed, sef Meithrin a blynyddoedd 2, a Cynradd blynyddoedd 3-6.
Roedd y cystadleuthau yn cynnwys rhedeg, rasus cyfnewid, taflu pel, naid hir, naid driphlyg, neidio cyflym, taflu pwysau a tynnu rhaff.

Gwnaeth pawb o dim Gellimanwydd yn arbennig o dda ac mae nifer yn mynd trwyddo i'r rowndiau terfynol, gan gynnwys timau rhedeg cyfnewid a'r tim tynnu rhaff.
Cynhelir y rowndiau terfynol y sir gan gynnwys cystadleuthau uwchradd yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar Nos Lun 19 Gorffennaf.

Saturday, July 03, 2010

TRIP YR YSGOL SUL

Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf aeth llond bws o aelodau a ffrindiau yr Ysgol Sul i Ddinbych y Pysgod. Gadawodd llond bws ohonom Gellimanwydd am 9.00 ac roeddem yn Ninbych y Pysgod am 10.15.[Image]Unwaith eto roedd y tywydd yn fendigedig a cawsom gyfle i fynd i'r traeth i fwynhau'r tywod a'r môr ac yr un mor bwysig y cyfeillgarwch a'r sgwrs. Roedd pawb wrth eu bodd yn chwarae rownderi, criced, adeiladu castell tywod, nofio yn y môr, bwyta brechdannau ac yfed te neu goffi ar y traeth. Diolch i Kevin o gwmni bysiau Gareth Evans am fynd a ni ac i Edwyn am y trefniadau.

Wednesday, June 23, 2010

Bwrlwm Bro Cylch Rhydaman

Plant ac athrawon Ysgolion Sul dalgylch Rhydaman wnaeth ymgasglu yn Neuadd Gellimanwydd ar gyfer Bwrlwm Bro o dan drefniant Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gaerfyrddin).
Yn ystod yr wythnosau diwethaf fe wnaeth Menter Ieuenctid Cristnogol (sir Gâr) gynnal Bwrlwm Bro mewn gwahanol ardaloedd ar draws y sir. Trefnwyd sesiynau yn Llangadog, Rhydaman, Tymbl, Caerfyrddin, Llwynhendy ynghyd ag oedfa Cymanfa’r Sul yn Saron, ger Llangeler. Cynhaliwyd Bwrlwm ardal Rhydaman yn Neuadd Gellimanwydd ar Ddydd Sul 20 Mehefin. Prif bwrpas y sesiynau hyn oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.
Trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau a gemau daeth yr hanes am Jona a’i anturiaethau yn fyw ym mhrofiad y plant. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddysgu am nodweddai cymeriad Duw fel un sy’n gyfiawn ac yn barnu drygioni, ond eto i gyd yn un sy’n llawn tosturi ac wrth ei fodd yn maddau i’r rhai sy’n galw ar ei enw. Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw. Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau`n fawr y profiad o gael uno gyda`i gilydd mewn dathliad cyfoes o`r ffydd.

Thursday, May 20, 2010

GWASANAETH TEULUOL - MIS MAI


Cynhaliwyd Gwasanaeth teuluol yn ystod oedfa boreol Sul 16 Mai dan arweiniad Edwyn Williams.
Ffydd oedd thema'r oedfa gyda Ffydd Abraham yn ganolog i'r gwasanaeth. Hefyd cawsom hanes Robert Jermain Thomas o Lanofer a aeth a Beiblau i wlad Korea. Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi.

Ffydd ydy’r sicrwydd fod beth dyn ni’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae’n dystiolaeth sicr o realiti beth dyn ni ddim eto’n ei weld.

BEDYDD THOMAS RHYS CLAYTON


Yn ystod Gwasanaeth teuluol bore 16 Mai bedyddwyd Thomas Rhys Clayton mab Lowri. 
Braf oedd  gweld y capel yn gyffyrddus lawn i ddathlu a thystio bedyddio Rhys bach. Dymunwn, fel eglwys, pob llwyddiant ac hapusrwydd iddo i'r dyfodol.



"Yn wir rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Duw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” Luc 18:17