Sunday, June 08, 2008

Cyfarfodydd Pregethu

Ar dydd Sul 8 Mehefin, 2008 daeth y Parchedig Hywel Wyn Richards, Penybont ar ogwr atom ar gyfer ein oedfaon pregethu. Roedd y Parchg Hywel Wyn Richards yn weinidog yn ardal Dolgellau am dros 25 mlynedd cyn iddo symud i fod yn weinidog ar eglwys y Tabernacl, Pen-y-bont yn 2004. Ef hefyd yw golygydd Y Tyst, ein papur enwadol.
Yn ystod oedfa'r bore gofynnodd Y Parchg Richards ychydig o bosau i'r plant: -
Beth sydd gan wyneb ond dim pen?
Beth sydd gan ben ond dim wyneb?
Beth sydd gan geg ond dim tafod?
Beth sydd gan dafod ond dim ceg?
Beth sy'n mynd yn wlyb wrth sychu?
Beth sy'n llawn tyllau ond yn dal dwr?
ac yna y cwestiwn pwysicaf - beth sydd yn mynd yn fwy wrth i chi ei rannu?

Yr ateb i'r cwestiwn olaf yw CARIAD, ac esboniodd Y Parchg Richards i'r plant bwysicrwydd a gwerth cariad Duw a bod angen i ni ei rannu a phawb.

atebion y cwestiynau eraill yw - cloc, pin, afon, esgid, towel, bwng



Clwb Hwyl Hwyr


Mae Eglwysi Cymraeg Rhydaman wedi dod at ein gilydd i sefydlu Clwb Ieuenctid Cristnogol ar gyfer plant yr ardal.

Bydd y clwb yn cyfarfod ar nos Wener o 5 -6 yn Neuadd Gellimanwydd. Clwb ar gyfer plant oed. Yn ystod y cyfarfod bydd y plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys storiau, crefft, cystadleuthau ayyb.

Mae tim o wirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol (sydd wedi eu gwirio gan y CRB) yn gofalu am y plant ac mae yna groeso cynnes i unrhyw blentyn blwyddyn 3 - 6 ymuno a ni.

Dyma gyfle gwych i blant gyfarfod a'i gilydd, a mwynhau hwyl a sbri drwy gyfrwng y Gymraeg mewn awyrgylch ddiogel a Christnogol

Bydd y clwb yn cael ei lansio yn swyddogol ym Mis Medi.

Sunday, May 18, 2008

Bedyddio Efeilliaid



Braint ac anhrydedd oedd cael bod yn bresennol yn yr oedfa deuluol, bore Sul Mai 18, oherwydd yn ystod yr oedfa cafodd Marged ac Elen Thomas eu bedyddio gan ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees.

Efeilliad Arwyn ac Heledd Thomas yw Marged ac Elen. Maent yn wyresau i Harry a Wendy Thomas, Cymer House, a Bethan ac Elfryn Thomas, Lleifior, Tycroes. Mae Harry yn un o'n diaconiaid yn Gellimanwydd a Bethan yw ein Hysgrifenyddes.

Roedd y tywydd yn braf a'r ddwy fach yn edrych yn hyfryd yn eu gwisgoedd a dymunwn, fel eglwys, pob llwyddiant ac hapusrwydd i Marged ac Elen i'r dyfodol.

"A phwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i." Mathew 18:5

NEGES EWYLLYS DA 2008

Cawsom wasanaeth teuluol arbennig bore Sul 18 Mai. A hithau yn Sul y Pentecost,Neges Ewyllys Da oedd thema'r gwasanaeth. Cawsom glywed neges ewyllys da yr Urdd eleni mewn tair iaith, Cymraeg, Saesneg ac Almaeneg. Hefyd chwaraewyd can newydd sbon sydd wedi ei hysgrifennu gan Caryl Parry Jones a'i chanu gan ei merch Miriam Isaac- Gwres dy Galon.
Cynhesu Byd eang a'i heffaith ar bobl tlawd y byd yw prif thema'r neges eleni ac mae angen i ni i gyd sylweddoli bod ein gweithrdoedd ni yn cael effaith andwyol enfawr ar bobl tlawd y byd.
A hithau yn agos at Wythnos Cymorth Cristnogol roedd y gwasanaeth yn amserol iawn. Thema'r wythnos eleni yw dangos y gwaith mae Cymorth Cristnogol yn ei wneud yn cynorthwyo pobl i baratoi ar gyfer y gwaethaf o ran yr hinsawdd. Ni allwn stopio corwynt neu llifogydd enfawr ond gallwn arbed bywydau drwy ariannu adeiladu cartrefi cryfach a gosod offer rhybydd cynnar rhag tsunami a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau miliynau o bobl ar draws y byd.
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i fwynhau cwmni ein gilydd drwy rannu cwpanaid o de yn y neuadd. Unwaith eto diolch i'r plant am eu gwaith graenus yn ystod yr oedfa, a diolch i Guto llywelyn am baratoi'r gwasanaeth.
A bydd gwres dy galon
Yn twymo bob enaid ym mhedwar ban byd,
Toddi'r holl ofalon
I ail-droi ein daear yn hafan i ti ac i mi.
Caryl Parry Jones

Wednesday, April 09, 2008

CHWARAEON MENTER CYDENWADOL GOGLEDD MYRDDIN


Yn ystod gwyliau’r Pasg yn Rhydaman cynhaliwyd cystadlaethau chwaraeon ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol Gogledd Myrddin. Cofrestrwyd 21 o dimoedd a daeth tyrfa niferus ynghyd i gefnogi’r plant a’r ieuenctid. Cafwyd hwyl fawr gyda’r cystadlu ac roedd Canolfan Hamdden Rhydaman yn llawn cyffro trwy gydol y dydd.
Rhannwyd y timoedd mewn grwpiau gan sicrhau bod pob tîm yn cael chwarae o leiaf dwy gêm yr un.

Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd yn cystadlu a chyfrannu tuag at ddiwrnod llwyddiannus iawn i Ysgolion Sul y dalgylch. Bydd y gweithgareddau nesaf a drefnir gan y Fenter yn cynnwys “Bwrlwm Bro” yn Neuadd Gellimanwydd (dyddiad i’w gadarnhau) a Noson Mabolgampau a Thynnu Rhaff ar nos Wener Gorffennaf 11eg yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman.