Monday, December 24, 2007

GWASANAETH NADOLIG


Nos Sul 23 Rhagfyr, 2007 cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig Ysgol Sul y Neuadd. Roedd y capel wedi ei addurno'n hardd gyda canhwyllau wedi'u tanio ar sil pob ffenest.

Cawsom olwg ar y Nadolig cyntaf drwy lygaid yr anifeiliaid a phethau eraill a wnaeth eu rhan yn geni Iesu Grist. Yn y gwasanaeth rhoed sylw i'r creaduriaid a'r seren ac yn arbennig i un pry copyn bach a wnaeth bopeth i wneud bywyd Iesu Grist yn esmwyth ar ol iddo gael ei eni.

Roedd Ieuenctid yr Ysgol Sul yn cymryd y rhannau arweiniol a'r plant llai yn adrodd hanes y seren a'r anifeiliaid. Bu'r ychen a'r asyn yn garedig iawn yn rhoi eu lle i'r baban Iesu, a rhoddodd y golomen fach blu a'r oen wlan i wneud y preseb yn fwy clud.

Yna cawsom olygfa ble roedd mam a merch yn addurno'r goeden gyda tinsel ac adroddwyd hanes y pry copyn bach yn safio bywyd Iesu drwy greu gwe ar draws geg yr ogof fel bod y milwyr ddim yn gallu gweld Mair a Joseff yn cuddio ynddi.

Diolch i bawb a gymrodd rhan a chafodd y gynulleidfa niferus wir fendith drwy ddathlu geni ein Gwaredwr.

Pan anwyd Crist ym Methlehem dref

Canodd angylion nef.

Canu wnawn ninnau'n llawen ein llef

Foliant i Faban Mair.

Monday, December 17, 2007

PARTI NADOLIG

Cynhaliwyd ein Parti Nadolig eleni ar Nos Lun 17 Rhagfyr 2007. Roedd y goeden Nadolig wedi'i addurno ar lwyfan y Neuadd a'r byrddau yn edrych yn hardd iawn. I ddechrau cawsom hwyl a sbri wrth chwarae gemau dan arweiniad Mr Guto Llywelyn.

Wedi'r chwarae cawsom de parti, sef dewis o sglodion a sosej, pysgodyn neu chicken nuggets. I ddilyn cawsom jeli coch a hufen ia. Yna daeth Sion Corn ar ei ymweliad blynyddol i ddosbarthu anrhegion i'r plant.

Diolch i bawb am eu cefnogaeth i'r Ysgol Sul dros y flwyddyn, ac edrychwn ymlaen am flwyddyn lwyddiannus arall yn 2008.

Sunday, November 11, 2007

Ysgrifennydd yr Undeb


Y Parchedig Ddoctor Geraint Tudur, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, oedd y pregethwr gwadd yn ein cyrddau pregethu Dydd Sul 11 Tachwedd.

Cawsom bregethu nerthol ganddo, oedd yn sbarduno pob un oedd yn bresennol. Yn y bore cawsom ein hatgoffa ein bod i gyd trwy alwad Duw yn saint. Rhoddodd y Parchg Ddr Geraint Tudur stori i'r plant drwy ddefnyddio sbienddrych (binoculars) i symbylu'r eglwys fel gwrthrych i ddod a Duw yn agos at pob un ohonom, yn enwedig yn yr oes brysur hon.

Rhufeiniad 12 oedd testun y nos. Braf oedd cael croesawu cyfeillion o eglwysi'r dref atom i gyd addoli. Atgoffodd Y Parchg Geraint Tudur i ni:-

  • roi addoliad ysbrydol i Dduw

  • gael ein trawsffurfio trwy adnewyddu ein meddyliau, ond yn bennaf i ni


  • offrymu ein hunain at waith yr Arglwydd.

"Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw. i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw sanctaidd a derbyniol gan Dduw."



Rhufeiniaid 12:1

Thursday, November 08, 2007

Gwasanaeth Anffurfiol

Nos Iau, 8 Hydref 2007 daeth criw ohonom ynghyd i neuadd Gellimanwydd ar gyfer yr olaf mewn cyfres o wasanaethau anffurfiol.

Cawsom weddi i ddechrau. Yn sail ar gyfer ein trafodaeth oedd Mathew 16:13-18

"Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?"

Buom yn edrych ar dri cwestiwn, sef:

1. Pa air sy'n disgrifio beth yr hyn mae Iesu yn sefyll drosto orau?

2. Pa air sy'n disgrifio Iesu orau?

3. Pa ddisgrifiad o Iesu sy'n achosi'r problem mwyaf i ni?

Yn dilyn ein myfyrdod a thrafodaeth cawsom gyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de. Bydd y cyfarfodydd yn ail ddechrau yn ystod y flwyddyn newydd ac yn dilyn yr un fformat a'r rhai blaenorol.

Sunday, November 04, 2007

GWASANAETH ANFFURFIOL


Dewch atom ni ar gyfer:
.
GWASANAETH ANFFURFIOL
.
Nos Iau 8 Tachwedd 2007
.
yn Neuadd Gellimanwydd
am 7.30

.
Gwasanaeth bywiog gyda phwyslais ar Astudiaeth Feiblaidd mewn awyrgylch anffurfiol gyfeillgar.
.
Wedi'r cyfarfod bydd cyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de
.
CROESO CYNNES I BAWB