Sunday, December 03, 2006

DATHLU'R NADOLIG


Ar Nos Sul Rhagfyr 17 yn Neuadd Gellimanwydd bydd plant ac Ieuenctid yr Ysgol Sul yn cyflwyno eu Pasiant Nadolig “Ble mae Iesu?” Y parchg Dyfrig Rees sydd wedi paratoi’r sgript eleni ac y mae e ynghyd a Miss Ruth Bevan ac athrawon eraill yr Ysgol Sul wedi bod yn paratoi’r plant ar gyfer y pasiant. Mae’r plant wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ers tro ac yn edrych ymlaen i gyflwyno eu gwasanaeth ar ffurf drama,darlleniadau a chân. Yn y llun gwelir rhai o’r plant yn ystod ymarfer yn y Neuadd.
Yna ar fore Sul 24 Rhagfyr byddwn yn uno gyda aelodau Moreia yng Ngellimanwydd i gynnal Oedfa’r nadolig ar y cyd. Bore Dydd Nadolig bydd Y Parchg Dyfrig Rees yn gweinyddu oedfa Gymun am 8.30

“ganwyd i chi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd;" Luc 2:11

Friday, December 01, 2006

Lesotho

Ar Nos Fercher 27 Tachwedd, Mr Gareth Rees, Pontyberem oedd gŵr gwadd Y Gymdeithas. Mae Mr Rees yn Bennaeth Ysgol Y Tymbl ac yn frawd i’n Gweinidog Y parchg Dyfrig Rees. Cawsom noson hynod ddiddorol a difyr yn ei gwmni yn adrodd hanes ei ymweliad â Lesotho. Roedd Gareth wedi ymweld ag ysgol yng nghanol y wlad. Mynd o dan adain Dolen Cymru, sef y mudiad sy’n gyfrifol am gefeillio Cymru a Lesotho, oedd Mr Rees.

Sunday, November 12, 2006

CYFARFODYDD PREGETHU

Dydd Sul, 12 Tachwedd, cawsom y fraint o groesawu'r Parch Wilbur Lloyd Roberts, Pentrefelin, Llandeilo i'n cyfarfodydd pregethu.
Yn ystod y bore a hithau yn Sul y Cofio cawsom ein atgoffa bod Iesu yn

"Lladd gelyniaeth nid gelynion" ac mai trwyddo ef y cawn wir heddwch yn y byd.
"Boed ysbryd gwell rhwng gwlad a gwlad
heb ryfel, dig na chas,
a phlyged holl arweinwyr byd
i'w dderbyn ef a'i ras,
i'w dderbyn ef a'i ras,
i'w dderbyn, i'w dderbyn ef a'i ras."
Yn oedfa'r hwyr cawsom y pleser o groesawu cyfeillion o eglwys y Gwynfryn atom . Cafodd pawb oedd yn bresennol fendith o fod yn yr oedfaon.

Thursday, October 26, 2006

SION A SIAN




Nos Fercher, Hydref 25 daeth criw y Gymdeithas i'r Neuadd ar gyfer Noson Sion a Sian. Roedd y noson yng nghofal Dai a Jennie sef Roy ac Edwina Leach. Roeddent wedi paratoi cwestiynau amrywiol a difyr dros ben i holi'r parrau priod. Y par cyntaf oedd Kerry a Marlene Moses, sydd wedi bod yn briod am bron i 50 mlynedd. Cawsom wybod ychydig o gyfrinachau'r ddau drwy holi Dai.
Yna tro Y Parchg Dyfrig Rees a'i wraig Mandy oedd hi. Pwy fuasai'n meddwl byddai Dyfrig yn hoffi mynd am criws rownd y byd tra bod hi'n well gan Mandy fod yn gogyddes enwog.

Tro Edwyn ac Ivoreen Williams oedd hi wedyn. Gwell ganddo ef brynu Rolls Royce ond roedd Ivoreen yn meddwl mai Jaguar sydd orau. Wynford ac Ann Jenkins oedd y par olaf i gystadlu. Roedd Wynford yn meddwl ei fod yn cysgu ar ochr dde y gwely ond na yr ochr chwith yn ol Ann!
Cawsom noson hwylus dros ben a diolch i bawb am y trefniadau - yn enwedig DAI A JENNIE.

Thursday, October 19, 2006

DIOLCHGARWCH 2007



Dydd Sul 15 Hydref cynhaliwyd cyrddau Diolchgarwch yr eglwys. Roedd y capel wedi ei addurno'n hyfryd gan aelodau'r eglwys. Yn y bore cawsom oedfa yn diolch i Dduw y Creawdwr gan Blant yr Ysgol Sul. Roedd pob plentyn wedi dysgu ei waith yn drylwyr a chawsom ein harwain ganddynt drwy ddarlleniadau, gweddiau, adroddiadau, llefaru i gyfeiliant, unawd a chan. Roedd y plant wedi dod a'u bocsys esgidiau yn llawn anrhegion ar gyfer Operation Christmas Child, a chawsom edrych ar fideo o blant yn derbyn y rhoddion mewn wahanol ardaloedd o'r byd. Diolch i athrawon yr Ysgol Sul am eu gwaith ac i Miss Ruth Bevan yn benodol am baratoi a dysgu'r plant.

Oedfa'r oedolion oedd yn yr hwyr. Cawsom ein arwain mewn myfyrdod gan ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees drwy gyfwng sleidiau ar y thema Porthi'r Pum Mil. Roedd aelodau'r eglwys yn darllen ac offrymu gweddiau a Mrs Gloria Lloyd yn arwain dau Gor, gyda Mr Cyril Wilkins wrth yr organ.
Braf oedd cael bod yn bresennol yn y ddwy oedfa i dalu clod i Dduw am y Cynhaeaf.

"Moliannaf enw Duw ar gan, mawrygaf ef a diolchgarwch". Salm 69:30